R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn
dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gefnogi'r diwydiant fferyllol yng Nghymru? (OAQ51217)
2. Vikki Howells (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyrannu cyllid o dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystod tymor y Cynulliad hwn? (OAQ51210)
3. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A yw Llywodraeth Cymru wedi nodi'r ddarpariaeth o drenau trydan rhwng Caerdydd ac Abertawe yn ei gwahoddiad i dendro ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau? (OAQ51220)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi recriwtio swyddogion yr heddlu yng Nghymru? (OAQ51187)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas â diogelwch plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? (OAQ51221)W
6. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gôd ymddygiad sy'n gymwys i swydd y Prif Weinidog? (OAQ51218)
7. Hannah Blythyn (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau Pride yng Nghymru? (OAQ51219)
8. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y tasglu gweinidogol ar gyfer cymoedd y de? (OAQ51222)
9. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu digon o dai o ansawdd yng Nghymru? (OAQ51177)
10. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd? (OAQ51216)W
11. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog nodi ei uchelgeisiau ar gyfer Banc Datblygu Cymru? (OAQ51181)
12. Jeremy Miles (Castell-nedd): Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gefnogi'r sector cydweithredol yn y pumed Cynulliad? (OAQ51213)
13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau yng nghanolbarth Cymru? (OAQ51189)
14. Leanne Wood (Rhondda): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru? (OAQ51202)