R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
1. David Rees (Aberafan):Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn asesu'r cynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â darparu bargen ddinesig Bae Abertawe? (OAQ51240)
2. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae gwahanol elfennau o'r gyllideb ddrafft yn helpu'r grwpiau o bobl fwyaf agored i niwed ym Merthyr Tudful a Rhymni? (OAQ51237)
3. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Llywodraeth Cymru gael gwared ar y cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus? (OAQ51243)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ddarpariaeth ariannol y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i gwneud ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau atal? (OAQ51227)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr egwyddorion sy'n llywio ystyriaeth Llywodraeth Cymru o drethi newydd? (OAQ51244)
6. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa astudiaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal ynghylch effaith bosibl unrhyw drethi y mae'n ystyried eu cyflwyno yn ystod y pumed Cynulliad? (OAQ51236)
7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyllid ar gyfer portffolio'r amgylchedd a materion gwledig? (OAQ51225)
8. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y caiff dyraniadau gwario eu blaenoriaethu yn y gyllideb ddrafft? (OAQ51231)
9. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i bortffolio'r economi a'r seilwaith mewn perthynas â rhwydwaith rheilffyrdd Cymru? OAQ51239
10. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith y caiff newidiadau i'r dreth drafodiadau eiddo ar y cyflenwad o eiddo masnachol? (OAQ51241)
11. Huw Irranca–Davies (Ogwr):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor yng Nghymru? (OAQ51232)
12. Hefin David (Caerffili):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio dangosyddion cenedlaethol wrth gyflawni gwelliannau perfformiad ar gyfer llywodraeth leol? (OAQ51235)
13. Leanne Wood (Rhondda):Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar gymorth ariannol o'r Undeb Ewropeaidd? (OAQ51230)
14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfraddau'r dreth gyngor yng Nghymru? (OAQ51224)
15. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am wella sut y cyflenwir gwasanaethau yn yr ardal? (OAQ51242)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Comisiwn amlinellu'r rheolau sy'n ymwneud â gwerthwyr preifat, fel y Big Issue, ar neu y tu allan i ystâd y Cynulliad? (OAQ51228)
2. Leanne Wood (Rhondda):Pa ymdrechion y mae'r Comisiwn yn eu gwneud i hyrwyddo addysg wleidyddol? (OAQ51233)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am sut y dyrennir costau diogelwch yn y Cynulliad? (OAQ51247)