R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn
dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd? (OAQ51256)
2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelwch cleifion yng Nghymru? (OAQ51245)
3. Vikki Howells (Cwm Cynon): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghwm Cynon? (OAQ51248)
4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio prosesau caffael cyhoeddus i gynyddu lefelau cynhyrchu’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru? (OAQ51250)
5. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am batrymau hunan-gyflogaeth yng Nghymru? (OAQ51252)R
6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gofal lliniarol yng Nghymru? (OAQ51226)
7. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd unrhyw newidiadau i reolaethau mewnfudo yn dilyn Brexit yn ei chael ar y GIG yng Nghymru? (OAQ51229)
8. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth leoli Llywodraeth Cymru? (OAQ51234)W
9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gan Lywodraeth y DU yn ystod trafodaethau Brexit mewn perthynas â sicrhau hawliau dynol? (OAQ51249)
10. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fudd cymunedol o gynlluniau ynni? (OAQ51253)W
11. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio meddygon teulu i bractisiau mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru? (OAQ51254)
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd economaidd yng ngogledd Cymru? (OAQ51223)
13. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd ymgynghori cyhoeddus ar gynlluniau awdurdodau lleol ar gyfer ad-drefnu ysgolion yng Nghymru? (OAQ51255)
14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pryd oedd y tro diwethaf i'r Prif Weinidog gynnal trafodaethau ynghylch Brexit gydag arweinwyr rhanbarthol Ewropeaidd eraill? (OAQ51246)
15. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd yn y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd yng Nghanol De Cymru? (OAQ51251)