Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar

01/11/17 i'w hateb ar 15/11/17

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

 

Leanne Wood     Rhondda

1      OAQ51292

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am delerau ac amodau ar gyfer athrawon cyflenwi?

          Mark Isherwood     Gogledd Cymru

2      OAQ51262

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cau ysgolion gwledig?

          Llyr Gruffydd     Gogledd Cymru

3     OAQ51263          Tynnwyd yn ôl        Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amodau gwaith a chyflog staff ysgol?

          Hannah Blythyn     Delyn

4      OAQ51259         Tynnwyd yn ôl

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth ar gyfer y cynllun eCadets yn ysgolion Cymru?

          Eluned Morgan    Canolbarth a Gorllewin Cymru

5      OAQ51285          Tynnwyd yn ôl       Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog athrawon dan hyfforddiant i astudio pynciau blaenoriaeth?

          Neil McEvoy     Canol De Cymru

6      OAQ51276

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran ariannu hyfforddiant statws lefel 5 ar gyfer cynorthwywyr addysgu?

          Caroline Jones     Gorllewin De Cymru

7      OAQ51270

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n mynd i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt?

          Joyce Watson    Canolbarth a Gorllewin Cymru

8      OAQ51266

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am recriwtio athrawon yng Nghymru?

 

          Huw Irranca-Davies     Ogwr

9      OAQ51257         Tynnwyd yn ôl

Pa sylwadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyfraddau llog ar fenthyciadau myfyrwyr?

          Rhianon Passmore     Islwyn

10    OAQ51267

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ddod yn athrawon yn Islwyn?

          Simon Thomas     Canolbarth a Gorllewin Cymru

11     OAQ51290 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A  wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid ar gyfer prifysgolion?

          Adam Price     Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

12     OAQ51289 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A  wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch Papur Gwyn y Gymraeg?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

          Caroline Jones     Gorllewin De Cymru

1      OAQ51272

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y derbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â chyffuriau?

          David Rees     Aberafan

2      OAQ51281         Tynnwyd yn ôl

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau trawma difrifol yn parhau i fod ar gael i bob claf ledled Cymru yn dilyn y cyhoeddiad am leoliad y ganolfan trawma difrifol newydd?

          Neil Hamilton    Canolbarth a Gorllewin Cymru

3      OAQ51275

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ofal cymdeithasol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

          John Griffiths     Dwyrain Casnewydd

4      OAQ51278

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru?

          David Rees     Aberafan

5      OAQ51282         Tynnwyd yn ôl

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gwasanaethir ardaloedd difreintiedig ledled Cymru gan bractisau meddygon teulu ag adnoddau llawn?

 

 

          Suzy Davies     Gorllewin De Cymru

6      OAQ51274

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gynnwys ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf?

          Darren Millar     Gorllewin Clwyd

7      OAQ51258

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gofal brys yng Nghymru?

          Gareth Bennett     Canol De Cymru

8      OAQ51277

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar iechyd yng Nghymru?

          Vikki Howells     Cwm Cynon

9      OAQ51265

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyfraddau diagnosis cynnar o ganser yng Nghwm Cynon?

          Eluned Morgan    Canolbarth a Gorllewin Cymru

10    OAQ51286          Tynnwyd yn ôl Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i'r GIG yng Nghymru?

          Mark Reckless     Dwyrain De Cymru

11    OAQ51279

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi amcangyfrif o'r oriau a weithiwyd, gan gynnwys gwerth yr oriau hynny, gan wirfoddolwyr cynghorau iechyd cymuned?

          Lee Waters     Llanelli

12    OAQ51294

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd newidiadau yn rheolau Cyllid a Thollau EM yn ei chael ar ofal y tu allan i oriau gan feddygon teulu yn Llanelli?

          Adam Price     Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

13    OAQ51287

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ddefnyddio gwestai cleifion yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

         Jenny Rathbone     Canol Caerdydd

14    OAQ51284

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru?