Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyflwyniad

1.    Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi fy ngwahodd i roi tystiolaeth ar lafar i’r Pwyllgor ar 20 Tachwedd fel rhan o’i ymchwiliad – Gwydnwch a pharodrwydd: ymateb gweinyddol ac ariannol Llywodraeth Cymru i Brexit. Mae strwythur y papur tystiolaeth ysgrifenedig hwn yn adlewyrchu cylch gorchwyl yr ymchwiliad, sef ymchwilio i:

 

·         ymateb gweinyddol ac ariannol mewnol Llywodraeth Cymru i Brexit; a

·         sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, addysg uwch, y trydydd sector a’r sectorau economaidd i baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

2.    Mae’r papur hwn yn dangos sut yr aeth Llywodraeth Cymru ati yn dilyn canlyniad y refferendwm, i feithrin gallu ar draws y llywodraeth er mwyn ymateb i’r heriau ac ymchwilio i gyfleoedd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn wedi sicrhau ein bod wedi ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid o’r cychwyn cyntaf i ddeall eu pryderon a’u blaenoriaethau, ac i fod yn weithredol wrth nodi safbwyntiau polisi cydlynol i ddylanwadu ar ddull Llywodraeth y DU o ymdrin â’r negodiadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ymateb gweinyddol ac ariannol mewnol Llywodraeth Cymru i Brexit

Ymateb strategol

3.    Sefydlwyd Is-bwyllgor y Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd er mwyn rhoi cyfeiriad strategol i Lywodraeth Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd ac i sicrhau bod y strategaeth honno yn cael ei datblygu a’i gweithredu mewn modd ystyrlon, er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl i bobl Cymru. Caiff ei gefnogi gan Grŵp Swyddogion Trefniadau Pontio Ewropeaidd sy’n cynnwys uwch swyddogion. Daw’r Grŵp ag arbenigwyr cyfreithiol, economaidd a chyfansoddiadol ynghyd, yn ogystal ag arweinwyr meysydd polisi penodol, ac mae’n cefnogi cydweithio ar draws y Llywodraeth. Sefydlwyd Is-grwpiau hefyd yn ôl yr angen, er enghraifft ar ddatblygu fframweithiau ar gyfer y DU, ac i ganolbwyntio ar faterion economaidd. Sefydlwyd is-grŵp hefyd er mwyn dod â swyddogion â phrofiad o ddeddfwriaeth ar draws y sefydliad ynghyd ac i gydgysylltu dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â deddfwriaeth sy’n ymwneud â Brexit. Yn ogystal, sefydlwyd Pwyllgor Cyswllt penodol gyda Phlaid Cymru er mwyn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â Brexit, a sefydlwyd y Grŵp Cynghori Ewropeaidd hefyd sy’n cynnwys arweinwyr busnes, gwleidyddion, undebau llafur ac eraill a chanddynt arbenigedd Ewropeaidd er  mwyn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar y goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

4.    Mae’r dull cydgysylltiedig a chydweithredol hwn wedi galluogi Llywodraeth Cymru i fod yn flaenllaw wrth ymateb i’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn wedi caniatáu inni gyfrannu’n adeiladol at y ddadl er mwyn dylanwadu ar safbwynt Llywodraeth y DU, ac i ddarparu cynigion cadarn ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Mae enghreifftiau yn cynnwys ein Papur Gwyn “Diogelu Dyfodol Cymru” a gyhoeddwyd ar y cyd â Phlaid Cymru ym mis Ionawr, a’n dogfennau polisi dilynol “Brexit a Datganoli” a “Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl”. Mae papurau eraill wrthi’n cael eu datblygu.

Staffio

5.    Yn dilyn y refferendwm cymerwyd camau ar unwaith gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys blaenoriaethu adnoddau staff i sefydlu Tîm Pontio Ewropeaidd penodedig, a leolir yn ganolog yn Swyddfa’r Prif Weinidog a Swyddfa’r Cabinet, i arwain ar y gwaith o ddatblygu polisi strategol ac i gydlynu gwaith Llywodraeth Cymru ar ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r tîm yn cysylltu â gweinyddiaethau datganoledig eraill ac adrannau yn Whitehall, Swyddfa’r Cabinet a’r Adran Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn arbennig, ac yn cydlynu ymgysylltiad adrannau eraill Llywodraeth Cymru â’u swyddogion cyfatebol yn Whitehall. Mae’r tîm hefyd yn arwain ar drefniadau llywodraethu mewn perthynas â Brexit, ac yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i ystyried ac archwilio goblygiadau posibl gadael yr Undeb Ewropeaidd.      

 

6.    Mae’r tîm wedi tyfu ers ei sefydlu, ac mae’n parhau i ehangu wrth i waith ar drefniadau pontio Ewropeaidd ddatblygu. Mae nifer y swyddi yn y tîm wedi cynyddu o ffigwr cyfwerth â 3 swydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn gweithio ar bolisi’r Undeb Ewropeaidd adeg y refferendwm i 19 o swyddi sydd wrthi’n gweithio ar hyn o bryd ar bolisi a deddfwriaeth Pontio Ewropeaidd (a bydd sawl swydd ychwanegol arall yn ystod wythnosau nesaf). Penodwyd Cyfarwyddwr Pontio Ewropeaidd, ynghyd â dau Ddirprwy Gyfarwyddwr.   

 

7.    Mae’r Tîm Pontio Ewropeaidd wedi gweithio’n agos ar faterion sy’n ymwneud â Brexit gyda thîm Llywodraeth Cymru sydd wedi’i leoli yn Swyddfa Brwsel, ac ar hyn o bryd mae gan y tîm 6 swydd sy’n gweithio ar faterion sy’n ymwneud â pholisi. Mae’r staff ym Mrwsel wedi parhau i weithio ar fusnes parhaus yr Undeb Ewropeaidd, ochr yn ochr â chefnogi gwaith sy’n ymwneud â Brexit, er enghraifft darparu gwybodaeth a dadansoddiad o’r trafodaethau a datblygiadau polisi ehangach yr Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud ag ymadawiad y DU. Mae’r Swyddfa, sydd wedi’i chyd-leoli â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Addysg Uwch Cymru Brwsel, yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ym Mrwsel. Mae’n datblygu ac yn cynnal cysylltiadau ac yn hwyluso ymgysylltiad gweinidogol ac ar lefel swyddogol â Sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr y gweinyddiaethau datganoledig a rhanddeiliaid eraill megis llywodraethau rhanbarthol, llywodraethau nad ydynt yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, cyrff anllywodraethol, cyrff diwydiant a chyrff syniadau, gan gynnwys cymryd rhan mewn rhwydweithiau perthnasol.

 

8.    Mae’r Tîm Pontio Ewropeaidd hefyd yn gweithio’n agos ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru, sydd wedi blaenoriaethu eu hadnoddau presennol i ddelio â materion sy’n ymwneud â Brexit yn benodol yn sgil canlyniad y refferendwm.

 

9.    O fewn adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig er enghraifft, crëwyd tîm Brexit bach o adnoddau presennol portffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig i sefydlu a chydlynu nifer o raglenni a ffrydiau gwaith allweddol. Mae’r elfen hon o Uned Strategaeth a Gadael yr Undeb Ewropeaidd portffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnwys tua 19 o unigolion, dan arweiniad Dirprwy Gyfarwyddwr. Mae’r tîm hwn yn cydlynu’r gwaith ar draws portffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig, ond o gofio maint a goblygiadau Brexit i gyfrifoldebau portffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig, mae’r gwaith yn cael ei gyflawni gan swyddogion ar draws yr adran fel rhan o’u rolau sylfaenol.

 

10. Ar ôl asesu’r meysydd gwaith sy’n flaenoriaeth yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, sy’n nodi bod angen tua 50 o staff ychwanegol i ddelio’n benodol â Brexit ar draws portffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cytuno i gynyddu gweithrediadau portffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig sy’n ymwneud yn benodol â Brexit. O gofio bod pwysau ar nifer y staff parhaol yn parhau, mae opsiynau i lenwi nifer o’r swyddi hyn drwy secondiadau, benthyciadau a swyddi am amser cyfyngedig wedi’u recriwtio’n fewnol yn cael eu dilyn.

 

11. Bydd masnach yn parhau’n faes lle y bydd gan yr Undeb Ewropeaidd gymhwysedd unigryw hyd nes y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond bydd penderfyniadau yn y dyfodol ar gysylltiadau masnachu newydd â’r Undeb Ewropeaidd a thrydydd gwledydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ystod eang o feysydd polisi datganoledig – er enghraifft, safonau amgylcheddol, datblygiad economaidd, amaethyddiaeth, sgiliau a chymwysterau. O ganlyniad sefydlwyd Tîm Polisi Masnach i gefnogi holl adrannau a Gweinidogion ar draws Llywodraeth Cymru i weithio ochr yn ochr â’r Tîm Masnach a Buddsoddi presennol. Mae’r tîm Polisi Masnach yn cynnwys tri aelod ostaff parhaol ac un penodiad dros dro o staff ffrwd gyflym y gwasanaeth sifila chaiff ei arwain gan Ddirprwy Gyfarwyddwr sydd hefyd yn gyfrifol am nawdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

12. Caiff gwaith ar drefniadau pontio Ewropeaidd o fewn portffolio’r Economi a Seilwaith ei arwain gan uwch swyddogion ar draws yr adran, ac mae timau lle yr effeithir ar eu meysydd polisi gan Brexit hefyd yn ystyried goblygiadau trefniadau pontio Ewropeaidd fel rhan o’u gwaith o ddydd i ddydd. Rydym wedi canolbwyntio’n bennaf ar weithio gyda busnesau i drafod goblygiadau Brexit iddyn nhw, ac i nodi sut a ble y gellir cynnig cefnogaeth yn y ffordd orau. Yn ogystal â hynny, mae swyddogion wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar faterion y maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw’n bennaf, ond sydd â goblygiadau sylweddol i gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, e.e. gwaith manwl ar oblygiadau trefniadau tollau newydd posibl i borthladdoedd Cymru a seilwaith arall.  

 

13. Newidiwyd strwythur yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol tua diwedd 2016. Roedd hyn yn cynnwys creu Tîm Ewrop er mwyn darparu cymorth i’r Tîm Pontio Ewropeaidd a’r baich gwaith cyfreithiol newydd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r tîm yn cynnwys Arweinydd Tîm ynghyd â phedwar cyfreithiwr, a fydd yn cynyddu i bum cyfreithiwr yn fuan.  Caiff y tîm ei oruchwylio gan Ddirprwy Gyfarwyddwr ac mae’n rhan o Adran ehangach sy’n cynnwys y Tîm Cyfansoddiadol a’r Tîm Iechyd a Diogelwch Bwyd. Mae nifer o dimau arall o fewn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yn ymgymryd â baich gwaith cyfreithiol yn sgil Brexit, yn arbennig y Tîm Materion Gwledig, Tîm yr Amgylchedd a’r Tîm Iechyd a Diogelwch Bwyd. 

 

14. Yn ychwanegol at hynny, mae yna wrth gwrs nifer fawr o staff, yn arbennig yn Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) ac adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig, sy’n gweithio ar gyflawni rhaglenni Ewropeaidd yn barhaus, sydd hefyd yn mynd i’r afael â meddwl am agweddau gweithredol pontio Ewropeaidd.

 

15. Ar gyfer Addysg Uwch, penodwyd Dirprwy Gyfarwyddwr penodol (rhan-amser) ym mis Tachwedd 2016 i arwain a chydlynu gwaith mewn perthynas â Brexit ac Addysg Uwch.

 

16. Mae uwch swyddogion ar draws y sefydliad yn ymdrin â goblygiadau ar gyfer Iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill a chânt eu cydlynu drwy Is-bwyllgor y Cabinet a Grŵp Swyddogion Trefniadau Pontio Ewropeaidd. Mae’r ddogfen polisi ar Fudo, “Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl” yn enghraifft o sut y mae’r materion sy’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus wedi cael eu hystyried ac wedi cyfrannu at ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru.

 

17. Fel yr awgrymir uchod, er bod oddeutu 50 o staff yn gweithio’n gyfan gwbl fwy neu lai ar waith sy’n ymwneud yn uniongyrchol â Brexit, mae nifer sylweddol o staff eraill ar draws adrannau Llywodraeth Cymru yn gweithio ar faterion sy’n ymwneud â phontio Ewropeaidd ochr yn ochr â’r gwaith o gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu gyffredinol, ac ymrwymiadau penodol o’i mewn, fel yr amlinellir yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb. Nid yw’n bosibl, felly, darparu un cyfanswm ystyrlon ar gyfer nifer aelodau o staff, neu gost ariannol ar gyfer yr holl staff sy’n gweithio ar faterion pontio Ewropeaidd.

 

18. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu materion staffio ac adnoddau sy’n ymwneud â Phontio Ewropeaidd.

Ymateb ariannol

19. Roedd Llywodraeth Cymru yn croesawu’r gwarant gan Lywodraeth y DU ym mis Hydref 2016 mewn perthynas â chylch diweddaraf rhaglenni’r Undeb Ewropeaidd. Mae bellach yn dyngedfennol cael sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gael o leiaf yr un lefel o gyllid â’r hyn a gawn ar hyn o bryd ac nad yw’r cyllid hwn yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau newydd neu frigdorri cyllideb gan Lywodraeth y DU.

 

20. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi’n sicrhau ein bod yn cael y cyllid canlyniadol perthnasol a theg sy’n cael ei ddyrannu i adrannau’r DU er mwyn paratoi ar gyfer ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys cyllid canlyniadol o ganlyniad i’r £250 miliawn sy’n cael ei ddyrannu o gronfeydd wrth gefn yn 2017-18 fel y nodir yn y Datganiad Ysgrifenedig gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ar 12 Hydref 2017.

 

21. Mae ansicrwydd sy’n ymwneud â Brexit yn dod ochr yn ochr â chyfnod hir o gyni parhaus, ac rydym yn wynebu’r her barhaus o gyflawni ein blaenoriaethau o fewn cyd-destun o bwysau cynyddol a chyllideb sy’n crebachu o hyd.

 

22. Fel cam cyntaf tuag at leddfu’r ansicrwydd y byddwn yn ei wynebu yn y blynyddoedd i ddod, rydym wedi annog Llywodraeth y DU yn rheolaidd i ailystyried cynlluniau i wneud gwerth o £3.5 biliwn o ostyngiadau adrannol ychwanegol yn 2019-20.

 

23. Cyn cyllideb Llywodraeth y DU ysgrifennais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn annog Llywodraeth y DU i roi terfyn ar gyni ac ymrwymo i brosiectau seilwaith allweddol yng Nghymru a darparu eglurder angenrheidiol ynglŷn â buddsoddiadau yn y dyfodol. Mae’n hen bryd i Lywodraeth y DU wrando ar farn arbenigol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a manteisio ar gyfraddau llog isel er mwyn ariannu mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith.

 

24. Pennwyd ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, am y tro cyntaf, o dan ein fframwaith cyllidol newydd. Mae’r fframwaith hwn yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol o ran rheoli adnoddau Llywodraeth Cymru, megis cronfa newydd i Gymru a chynnydd mewn pwerau benthyca.   Er na fyddwn yn ymwybodol o ganlyniad “adolygiad effeithlonrwydd” Llywodraeth y DU tan Gyllideb y DU ar 22 Tachwedd, mae effaith ddisgwyliedig y gostyngiad hwn yng Nghymru wedi cael ei ystyried yn y Gyllideb ddrafft.

 

25. Mae’r Gronfa newydd i Gymru, a gyflwynir o fis Ebrill 2018, yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol sylweddol o gymharu â’r broses cyfnewid cyllideb flaenorol, a bydd yn cynnwys hyd at £350 miliwn. Rydym wedi mabwysiadu dull darbodus o ymdrin â chronfeydd wrth gefn yn ystod tymor y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r hyblygrwydd a roddir inni drwy’r Gronfa newydd i Gymru.  O gofio’r ansicrwydd rydym yn ei wynebu a’r toriadau effeithlonrwydd sydd i ddod gan Lywodraeth y DU, bydd y Gronfa i Gymru yn rhoi’r capasiti inni ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag y toriadau gwaethaf yn y blynyddoedd sydd i ddod a defnyddio adnoddau’n strategol i fynd i’r afael â heriau yn y dyfodol. Wrth bennu’r Gyllideb ddrafft hon rydym wedi cynllunio i dynnu £75 miliwn i lawr o’r Gronfa i Gymru yn 2019-20.

Ymgysylltu â Llywodraeth y DU

26. Rydym wedi mynd ati i geisio cyfleoedd i ymgysylltu â Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’n dylanwad ar safbwynt negodi’r DU, ac rydym yn teimlo bod ein dadleuon sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â dadleuon rhanddeiliaid allweddol eraill, wedi cael effaith wirioneddol ar ei dull gweithredu, yn arbennig o ran cydnabod pwysigrwydd hanfodol trefniadau pontio, a bwysleisiwyd yn glir gennym yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Ionawr. Rydym hefyd wedi pwysleisio yn y Papur Gwyn bwysigrwydd “mynediad llawn a dirwystr” at y Farchnad Sengl, ac mae Llywodraeth y DU wedi hynny wedi galw am drefniadau masnach mor rhydd a llyfn â phosibl gyda’r Undeb Ewropeaidd.

 

27. Rydym wedi dadlau’n glir dros bwysigrwydd mecanwaith ac ymgysylltiad rhynglywodraethol cadarn er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu ac rydym nawr yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi ail-lansio’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r Undeb Ewropeaidd), ac wedi ymrwymo o’r newydd i gynnal cyfarfodydd mwy rheolaidd a phwrpasol. Rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio’r fforwm hwn fel sylfaen ar gyfer cydweithio sylweddol, a ategir gan ymgysylltiad dwyochrog parhaus ar draws portffolios ar lefel Gweinidogol gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU.  

 

28. Ategwyd hyn gan gryn dipyn o drafodaeth barhaus a chyson ar lefel swyddogion uwch ar draws ystod o adrannau Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio amddiffyn buddiannau a hybu blaenoriaethau Cymru wrth ddatblygu syniadau polisi Llywodraeth y DU. Er enghraifft, mae’r Ysgrifennydd Parhaol yn mynychu cyfarfod o’r holl Ysgrifenyddion Parhaol ar draws Whitehall a’r Gweinyddiaethau Datganoledig bob wythnos, ac mae hefyd yn cael cyfarfodydd rheolaidd ag Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein staff yn swyddfa Brwsel hefyd yn gweithio’n agos â chydweithwyr Llywodraeth y DU yng Nghynrychiolaeth Barhaol y DU i’r Undeb Ewropeaidd, ac yn rhan o dîm ehangach y DU yno.

 

29. Rydym yn parhau i bwysleisio’r angen i Lywodraeth y DU ymgysylltu mwy â ni wrth ddatblygu eu syniadau polisi a’u safbwyntiau ar gyfer y trafodaethau. Mae hyn arbennig o wir mewn perthynas ag agweddau ar Brexit sy’n effeithio ar gymwyseddau sydd wedi’u datganoli, er mwyn iddynt allu cyflwyno safbwynt ar gyfer y DU gyfan yn y trafodaethau â’r UE-27 mewn modd sy’n adlewyrchu arfer sefydledig mewn perthynas â busnes parhaus yr Undeb Ewropeaidd. Mae hefyd yn angenrheidiol bod Llywodraeth y DU, sydd â llawer mwy o adnoddau, yn rhannu gwaith ymchwil a dadansoddi gyda ni mewn modd nad ydynt wedi’i wneud hyd yma (fel y dangoswyd gan amharaodrwydd Llywodraeth y DU i rannu asesiadau manwl o effaith economaidd), ac yn ymgysylltu mwy â ni ar faterion yn ymwneud â pharodrwydd gweithredol. Mae terfyn i’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i baratoi ar gyfer canlyniadau gwahanol os nad yw Llywodraeth y DU yn gweithio gyda ni yn y modd hwn. 

 

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, addysg uwch, y trydydd sector a’r sectorau economaidd i baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

30. Mae gweithio’n agos ac ymgysylltu dwys gyda phob rhan o gymdeithas Cymru yn hanfodol wrth ymateb i adael yr Undeb Ewropeaidd. Fel y soniwyd yn gynharach, sefydlwyd y Grŵp Cynghori ar Ewrop i gynghori Llywodraeth Cymru ar yr heriau a’r cyfleoedd posibl a ddaw yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n dod ag unigolion â phrofiad ac arbenigedd o faterion Ewropeaidd ar draws cymdeithas sifil a sectorau gwleidyddol yng Nghymru ynghyd. Yn gyffredinol, gwahoddwyd aelodau ar sail unigol yn hytrach nag fel cynrychiolwyr ffurfiol sefydliadau penodol.

 

31. Rydym yn ymgysylltu’n helaeth â busnesau, ffermwyr, undebau llafur, sefydliadau addysgol, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector, cymunedau a’r cyhoedd. Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, y Fforwm Cymunedau Ffydd a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn enghreifftiau o weithgorau Llywodraeth Cymru sydd wrthi’n ystyried ac yn trafod materion yn ymwneud â Brexit.  Mae Pwyllgor Monitro Rhaglenni y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd hefyd yn ein cynorthwyo i gofnodi barn partneriaid allweddol wrth ystyried polisi rhanbarthol presennol a pholisi rhanbarthol yn y dyfodol.

 

32. O ran ymgysylltu â sefydliadau Addysg Uwch, sefydlwyd y Gweithgor Addysg Uwch ym mis Medi 2016 sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r sector Addysg Uwch, gan gynnwys Prifysgolion Cymru, Addysg Uwch Cymru Brwsel, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. 

 

33. Mae swyddogion iechyd hefyd yn ymgysylltu’n rheolaidd â rhanddeiliaid perthnasol, er enghraifft mae Brexit wedi bod yn eitem barhaol ar agenda Fforwm Partneriaeth GIG Cymru, sy’n cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru, ers canlyniad y refferendwm, a thrafodir materion sy’n ymwneud â Brexit yng nghyfarfodydd sefydliadau unigol, er enghraifft cyfarfodydd goruchwylio ar y cyd â Chymdeithas Feddygol Prydain, cyfarfodydd â’r Coleg Nyrsio Brenhinol a’r Asiantaeth Safonau Bwyd.

 

34. Ers y refferendwm rydym wedi bod yn ymgysylltu’n eang â busnesau o bob maint ledled Cymru i ddeall y risgiau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â Brexit. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn ac wedi comisiynu ymchwil amrywiol i gefnogi hyn, er engraifft yr ymchwil a baratowyd gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru a gafodd ei gynnwys yn ein dogfen polisi “Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl”.  Bydd ymchwil a gynhaliwyd gennym i ddeall y ffordd y mae cwmnïau mwy yn paratoi ar gyfer Brexit hefyd yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos. 

 

35. Un o’n hymdrechion mwyaf i fynd i’r afael ag effaith negyddol posibl Brexit yw cefnogi busnesau ac rydym yn dwysáu ein hymdrechion i gynyddu nifer a maint y busnesau o Gymru sy’n allforio drwy gyflwyno cynllun rhagweithiol i gefnogi allforio. Fel rhan o Gytundeb y Gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru cafodd cyllideb ychwanegol ei chynnwys yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2018-19 i gefnogi busnesau i ddelio ag effaith Brexit.     

 

36. Rydym wedi bod yn siarad â busnesau a chynrychiolwyr busnesau ledled Cymru (er enghraifft drwy Gyngor Datblygu’r Economi a’i weithgor Brexit) er mwyn deall eu pryderon a’u hanghenion ac i sicrhau bod eu safbwyntiau yn cael eu cynnwys yn safbwyntiau polisi Llywodraeth Cymru a’n cynrychiolaethau i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU.

 

37. Mae gwaith ar gynllunio senarios Brexit hefyd yn cychwyn drwy ein timau sectorau sy’n cael blaenoriaeth. Bydd sefydlu’r gweithgor gyda chynrychiolwyr o Gyngor Datblygu’r Economi, y gymuned fusnes, TUC Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn datblygu gwell dealltwriaeth o’r heriau a’r cyfleoedd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

 

38. Mae deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU mewn perthynas â Thollau a Masnach yn debygol o gael effaith economaidd, a bydd yn cael effaith benodol ar borthladdoedd Cymru. Rydym yn gweithio â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU i ddeall yr hyn sy’n cael ei gynnig yn y ddeddfwriaeth hon, er mwyn inni allu lliniaru’r risgiau i Gymru a sicrhau’r buddiannau mwyaf posibl. 

 

39. O gofio perthnasedd deddfwriaeth sy’n dod o Ewrop ar bortffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig, bron yn syth ar ôl canlyniad refferendwm Brexit, ffurfiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig fel yr adwaenid bryd hynny, Grŵp Bord Gron ar Brexit yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol ar draws ei phortffolio. Gan gyfarfod bob rhyw chwe wythnos, mae’r grŵp hwn wedi bod yn gweithio i nodi’r effeithiau a’r cyfleoedd tebygol yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaid. Er mwyn ystyried meysydd arbennig yn fwy manwl, mae’r prif grŵp wedi creu cyfres o is-grwpiau. Dyma’r is-grwpiau, sy’n cael eu cadeirio gan uwch swyddogion o fewn portffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig: Aer a’r Hinsawdd, Tystiolaeth a Senarios, Rheoli Tir, Moroedd ac Arfordir, Pobl a Chymunedau, Deddfwriaeth a Rheoliadau, a Masnach a Chadwyni Cyflenwi.

 

40. Defnyddir eu gwaith i lywio datblygu polisi portffolio’r Amgylchedd a Materion Gwledig, ein trafodaethau â Defra a Llywodraeth ehangach y DU, ac mae eisoes wedi cyfrannu at nifer o ddogfennau Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cyhoeddi eisoes. Maent yn awr yn symud ymlaen at ystyriaethau parodrwydd (h.y. yr hyn y bydd angen iddynt ei wneud i reoli’r materion hyn a pha gefnogaeth y bydd ei hangen arnynt gan Lywodraeth Cymru fel rhan o hyn).

Casgliad

41.  Rwy’n gobeithio y bydd y Pwyllgor yn ystyried y papur tystiolaeth hwn yn ddefnyddiol o ran amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi meithrin ei gallu mewn ymateb i ganlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Bydd aelodau’n gwerthfawrogi y bydd trefniadau’n parhau i ddatblygu’n gyflym wrth i ni agosáu at adael yr Undeb Ewropeaidd, a byddaf yn fwy na pharod i roi’r newyddion diweddaraf i’r pwyllgor yn y dyfodol.

       Mark Drakeford AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid