Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar
25/01/2018 i'w hateb ar 30/01/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Prif Weinidog Cymru

               Vikki Howells     Cwm Cynon

1        OAQ51651

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chyflog isel yng Nghymru?

              Sian Gwenllian     Arfon

2        OAQ51655     Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael a'r broblem o ddigartrefedd yn Arfon?

               Adam Price     Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

3        OAQ51661

Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu i fyrddau iechyd lleol ynghylch trawsnewid gwasanaethau clinigol?

              Janet Finch-Saunders    Aberconwy

4        OAQ51690

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru?

              David Melding     Canol De Cymru

5        OAQ51687

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru?

              Mandy Jones     Gogledd Cymru

6        OAQ51648

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drin cyflyrau cronig yng Ngogledd Cymru?

              Rhianon Passmore     Islwyn

7        OAQ51685

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu allbwn economaidd ar gyfer cymunedau Islwyn?

              Mohammad Asghar     Dwyrain De Cymru

8        OAQ51658

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella economi de-ddwyrain Cymru yn ystod y pumed Cynulliad?

              Russell George     Sir Drefaldwyn

9        OAQ51641

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru?

 

               Neil Hamilton    Canolbarth a Gorllewin Cymru

10     OAQ51686

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru?

              Caroline Jones     Gorllewin De Cymru

11     OAQ51665

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal llifogydd yng Ngorllewin De Cymru?

               Llyr Gruffydd     Gogledd Cymru

12     OAQ51689     Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysus yng Ngogledd Cymru?

              Julie Morgan    Gogledd Caerdydd

13     OAQ51692

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru?

              Jane Hutt     Bro Morgannwg

14     OAQ51660

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bythefnos masnach deg yng nghyd-destun cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu rhyngwladol yn Affrica a ledled y byd?

              Mick Antoniw     Pontypridd

15     OAQ51688

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli plismona i Gymru?

http://cofnod.cynulliad.cymru/OrderPaper/OralQuestions/30-01-2018/                                                                                                                  2/2