Y Pwyllgor Cyllid: Tystiolaeth Ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi fy ngwahodd i roi tystiolaeth lafar ar 9 Mai fel rhan o’i ymchwiliad i’r gost o ofalu am boblogaeth sy’n heneiddio. Mae’r papur tystiolaeth ysgrifenedig hwn yn nodi maint yr her drwy roi trosolwg byr o’r ymdrechion polisi i fynd i’r afael â’r her o dalu am ofal ac yna mae’n canolbwyntio ar yr agweddau hynny ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad sy’n ymwneud fwyaf â’m cyfrifoldebau i.

 

2.         Mae’r papur hwn yn cynnwys trafodaeth ynghylch:

·                Y lefelau presennol a diweddar o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys cymariaethau â Lloegr;

·                Y pwysau tebygol o ran y galw am ofal i bobl hŷn yn y tymor canolig a’r tymor hwy;

·                Y dulliau posibl o gyllido’r galw ychwanegol am ofal yng Nghymru;

·                Enghreifftiau rhyngwladol o systemau cyllido gofal cymdeithasol.

 

Yr her o dalu am ofal

 

3.         Mae talu am ofal hirdymor poblogaeth sy’n heneiddio yn parhau i fod yn her polisi bwysig ledled y DU ac rydym wedi ymdrechu i fynd i’r afael â hi yn gyson yng Nghymru drwy wneud y defnydd gorau o’r adnoddau a’r pwerau sydd gennym ar unrhyw adeg benodol. Ym 1999, gwnaeth y Comisiwn Brenhinol ar Ofal Hirdymor o dan arweiniad yr Arglwydd Southerland nifer o argymhellion, gan gynnwys y dylai’r wladwriaeth dalu am ofal personol. Er y cymeradwywyd hyn mewn egwyddor, cyfyngwyd ar unrhyw gamau gweithredu oherwydd bod Cymru’n parhau i fod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae datblygu cynigion i Gymru’n unig ar gyfer diwygio’r polisi yn parhau’n fater cymhleth heddiw oherwydd effaith materion nad ydynt wedi’u datganoli, megis budd-daliadau lles a phensiynau. Fodd bynnag, rydym wedi parhau i wneud cynnydd drwy wneud defnydd llawn o’n pwerau deddfu i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Arweiniodd y Ddeddf hon at ffocws o’r newydd ar atal ac ymyrryd yn gynnar; ynghyd â mwy o bwyslais ar gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth i gyflawni canlyniadau llesiant cryfach ar gyfer y rheini sy’n derbyn gofal.

 

4.         Mewn Cynulliadau olynol, rydym wedi parhau i ystyried cynigion i Gymru’n unig ac ar lefel y DU ar gyfer diwygio’r polisi yng nghyd-destun y goblygiadau cyllido a’r effeithiau ar symiau canlyniadol Barnett. Yn 2008, cynhaliwyd rhaglen ymgynghori ac ymgysylltu fawr i ymchwilio i farn pobl ynghylch y cyfeiriad cyffredinol ar gyfer diwygio’r system gofal cymdeithasol yng Nghymru.  Arweiniodd canlyniadau’r ymgynghoriad hwn at y Papur Gwyn ar Dalu am Ofal yn 2009 a sefydlu Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid Cymru ar Dalu am Ofal, nad yw’n bodoli bellach. 

 

5.         Chwaraeodd y Grŵp Cynghori ran bwysig yn y broses o gefnogi datblygiad ein hymateb i gomisiwn 2010 Llywodraeth y DU, o dan arweiniad Syr Andrew Dilnot, ar gyllido gofal a chymorth.  Gwnaeth comisiwn Dilnot nifer o argymhellion ar dalu am ofal cymdeithasol, gan gynnwys cap oes gyfan ar gyfraniadau a chynnig i gynyddu swm y cyfalaf y gallai’r rheini mewn gofal preswyl ei gadw heb ei ddefnyddio i dalu am eu gofal.  Bwriad gwreiddiol Llywodraeth y DU oedd gweithredu rhai o gynigion Dilnot o fis Ebrill 2016 ymlaen, yn dilyn ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft o dan Ddeddf Gofal 2014 gan y Gweinidog Gwladol dros Ofal a Chymorth ar y pryd, Norman Lamb AS, ond ni chyhoeddwyd unrhyw ymateb gan Lywodraeth y DU i’r ymgynghoriad.  Yn 2015, cyhoeddodd yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Iechyd ar y pryd, yr Arglwydd Prior o Brampton, y byddai’r diwygiadau’n cael eu gohirio tan 2020.  Mae’n parhau i fod yn aneglur pa ddiwygiadau, os o gwbl, a fydd yn cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU, yn enwedig o gofio ei bwriad bellach i gyhoeddi Papur Gwyrdd newydd ar ddyfodol gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn yn Lloegr erbyn toriad yr haf.

 

6.         Er gwaethaf y cynnydd cyfyngedig ar lefel y DU, yn 2011, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ffi uchafswm wythnosol ar gyfer gofal dibreswyl ac mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu i £50,000 y cyfalaf y gall pobl mewn gofal preswyl ei gadw heb ei ddefnyddio i dalu am eu gofal cyn diwedd y Cynulliad hwn. Cynyddwyd y terfyn cyfalaf hwn i £40,000 ar 9 Ebrill eleni ac mae’n parhau i fod gyda’r uchaf ymhlith unrhyw un o wledydd y DU (£23,250 yw’r terfyn yn Lloegr).

 

7.         Wrth symud ymlaen ac adeiladu ar y cynnydd rydym wedi’i wneud yng Nghymru yn y maes hwn, byddwn yn parhau i wneud defnydd o adroddiadau ymchwil LE Wales a gomisiynwyd yn 2013 ac a gyhoeddwyd yn 2014. Mae’r adroddiadau hyn yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol ar dueddiadau poblogaeth ac amcanestyniadau o’r galw presennol ac yn y dyfodol ar gyfer ein gwasanaethau gofal cymdeithasol ac yn ystyried modelau rhyngwladol eraill ar gyfer talu am ofal.  

 

Cyllido gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr

 

8.         Mae tabl un yn dangos yr ystadegau diweddaraf, a gynhyrchwyd gan Drysorlys EM, ar gyfer y gwariant fesul person ar wasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru a Lloegr. Cynyddodd y gwariant y pen yng Nghymru 5% mewn termau arian parod rhwng 2010-11 a 2016-17, ond gostyngodd 10% dros yr un cyfnod yn Lloegr. O ganlyniad, roedd y gwariant fesul person yng Nghymru yn 2016-17 yn fwy na 40% yn uwch nag yn Lloegr, o gymharu ag 20% yn uwch yn 2010-11.

 

9.         Mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn na Lloegr, ond hyd yn oed o ystyried hynny, roedd y gwariant fesul person dros 65 oed yn 2016-17 25% yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, o gymharu â thuag 8% yn uwch yn 2010-11. 

 

 

 

Tabl un: Gwariant cyhoeddus ar wasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn (£ y person)

 

10.      Mae’r gwariant yng Nghymru ar wasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn wedi’i ddiogelu mewn perthynas â chyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru. Roedd cynnydd o 7% mewn termau arian parod rhwng 2010-11 a 2016-17 o gymharu â chynnydd o 3% yng nghyllideb adnoddau gyffredinol Llywodraeth Cymru.

 

Mesurau cyllidebol diweddar

 

11.      Ochr yn ochr â’r warchodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i darparu i’r GIG yng Nghymru, rydym hefyd wedi sicrhau bod y cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn adlewyrchu’r flaenoriaeth a roddwn i wasanaethau cymdeithasol o ansawdd uchel. Fel y dangosir uchod, ers i Lywodraeth y DU gyflwyno ei pholisi cyni, mae’r gwariant ar wasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn wedi’i gynnal yng Nghymru, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

 

12.      Mewn cyllidebau mwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gymryd camau i leihau effaith gostyngiadau ar y setliad llywodraeth leol. Yng nghyllideb 2018-19, gwnaethom neilltuo £155m yn ychwanegol dros ddwy flynedd (£42m yn 2018-19 a £73m yn 2019-20) i gynnal y gwariant ar wasanaethau cymdeithasol ar lefelau 2017-18.

 

13.      Mae’r cyllid ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig – y Gronfa Gofal Canolradd yn flaenorol – hefyd wedi’i gynnal o ran arian gwastad ar lefelau 2017-18 gyda £60m (£10m o gyfalaf a £50 o refeniw) ar gael ym mhob un o’r ddwy flynedd nesaf.

 

14.      Yn ogystal â’r setliad iechyd, rydym wedi dyrannu £100m yn ychwanegol dros ddwy flynedd (£50m yn 2018-19 a £50m yn 2019-20) ar gyfer cronfa drawsnewid fel ymateb i’r Arolwg Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rhagwelwyd y byddai peth o’r cyllid yn cefnogi’r Gronfa Gofal Integredig, yn ogystal â datblygiad modelau darparu gwasanaeth eraill gydag awdurdodau lleol a phartneriaid y trydydd sector, megis sefydliad gwerth cymdeithasol ac i dargedu cymorth i ofalwyr.  

 

15.      Fel rhan o Gyllideb 2018-19, dyrannwyd cyfalaf ychwanegol gennym o £15m dros ddwy flynedd – £5m yn 2019-20 a £10m yn 2020-21 – mewn rhaglenni cyfalaf ar gyfer tai, iechyd a gofal cymdeithasol.

 

 

Pwysau yn y dyfodol

 

16.      Mae setliadau awdurdodau lleol a gwariant ar ofal cymdeithasol wedi cael eu gwarchod yn sylweddol ers cyflwyno polisi cyni Llywodraeth y DU. O ganlyniad, mae’r gwariant fesul person ar wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn llawer uwch nag yn Lloegr. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o dystiolaeth yn awgrymu bod y pwysau ar gyllidebau gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn yn debygol o gynyddu dros y 10 i 15 mlynedd nesaf a thu hwnt.  

 

17.      Rhagwelir y bydd y boblogaeth dros 75 oed yn cynyddu bron i 120,000 – mwy na 40% - rhwng 2016 a 2030. Disgwylir i’r cynnydd cyflym hwn barhau drwy gydol y degawd dilynol, gan gyrraedd cynnydd cyffredinol o fwy na 70% erbyn 2040 (gweler siart un). Rhagwelir y bydd y boblogaeth dros 85 oed hefyd yn cynyddu i’r un graddau erbyn 2030, ond y bydd yn cynyddu’n gynt yn y 2030au ac yn mwy na dyblu erbyn 2040.  

 

18.      I roi hyn yn ei gyd-destun, rhagwelir y bydd poblogaeth gyffredinol Cymru’n cynyddu 4% rhwng 2016 a 2030 a 5% erbyn 2040.

 

Siart un: twf poblogaeth rhagamcanol yng Nghymru (o gymharu â 2016)

Ffynhonnell: Prif amcanestyniadau poblogaeth yr ONS (sail-2016)

 

19.      Mae’r Sefydliad Iechyd wedi defnyddio gwaith gan Ysgol Economeg Llundain i ragamcan cost gofal cymdeithasol i oedolion y telir amdano gydag arian cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn dangos y byddai’r costau’n cynyddu 80% mewn termau real rhwng 2015 a 2030. Mae’r amcangyfrifon hyn yn cydweddu â’r dadansoddiad tymor byrrach gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025.  

 

20.      Dylid nodi bod Lloegr yn wynebu’r un pwysau demograffig ac o ran costau â Chymru. Mae amcanestyniadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Lloegr yn dangos yr un cynnydd canrannol yn y poblogaethau dros 75 a thros 85 erbyn 2030 ag a geir yng Nghymru. Y tu hwnt i hynny, mae’r amcanestyniadau ar gyfer Lloegr yn tyfu’n gynt na’r rheini yng Nghymru.  

 

21.      Mae’r gwaith gan Ysgol Economeg Llundain, a ddefnyddiwyd gan y Sefydliad Iechyd i gynhyrchu amcanestyniadau cost ar gyfer Cymru, yn dangos y gallai’r gost am ofal cymdeithasol i oedolion y telir amdano gydag arian cyhoeddus yn Lloegr gynyddu 90% rhwng 2015 a 2030.

 

22.      Mae’r holl amcanestyniadau cost ar gyfer gofal cymdeithasol yn sensitif i’r rhagdybiaethau ynghylch y tueddiadau yn y dyfodol ynghylch marwolaethau, cyfraddau anabledd, cost uned gofal, a dewisiadau y rheini sy’n derbyn gofal. Fodd bynnag, mae’n glir ei bod yn debygol y bydd cynnydd sylweddol yn y galw am ddarpariaeth gofal cymdeithasol y telir amdano gydag arian cyhoeddus wrth i genhedlaeth y cynnydd heneiddio.

 

Dulliau o gyllido’r galw ychwanegol am ofal cymdeithasol yng Nghymru

 

23.      Mae talu am ofal hirdymor poblogaeth sy’n heneiddio yn her bolisi bwysig ledled y DU. Mae hwn yn faes cymhleth iawn gyda rhai pobl yn talu mwy nag eraill a rhai yn talu dim byd o gwbl am y gofal y maent yn ei dderbyn. Rydym wedi defnyddio’n pwerau deddfu i ddod â rhywfaint o gysondeb i’r trefniadau codi tâl ledled Cymru. Fodd bynnag, mae’r cymhlethdodau’n parhau ac mae gwahaniaethau sylweddol yn y trefniadau rhwng gwledydd y DU. Er enghraifft, yn yr Alban, mae gofal personol am ddim; yn Lloegr, y terfyn cyfalaf cyn y bydd cartref person yn cael ei ystyried yw £23,250, ond yng Nghymru, mae hwn bellach yn £40,000 ac mae disgwyl iddo godi i £50,000 erbyn 2021. 

 

24.      Gallai trethi chwarae rôl o ran ymateb i’r her o dalu am ofal poblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru dros y tymor canolig a hwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud gwaith pellach ar y posibilrwydd o gyflwyno treth wedi’i datganoli i gefnogi’r her hon fel rhan o’i gwaith ar bedwar syniad treth newydd. Mae hyn yn cyd-fynd â’n hymrwymiad yn Ffyniant i Bawb i ddatblygu modelau cyllido arloesol i sicrhau bod cyllid ar gael i ateb y galw yn y dyfodol am ofal cymdeithasol. 

 

Model ardoll gofal cymdeithasol yr Athro Holtham

 

25.      Mae’r Athro Gerald Holtham a Tegid Roberts wedi cynnig model penodol ar gyfer mynd i’r afael â’r her hon ar ffurf ardoll gofal cymdeithasol. Byddai hwn yn cael ei dalu ar incwm a gellid ei osod ar raddfa sefydlog drwy gydol bywyd unigolyn o wneud cyfraniadau. O dan y model hwn, byddai’r cyfraddau’n uwch ar gyfer unigolion hŷn pan sefydlir y gronfa gyntaf. Byddai hyn yn cynnal elfen o degwch rhwng y cenedlaethau, oherwydd byddai’r unigolion hŷn yn talu am gyfnod byrrach pan gyflwynir yr ardoll am y tro cyntaf. Fodd bynnag, y rhagdybiaeth tymor hwy yw y byddai’r gyfradd a delir yn dod yn gyfartal ar draws y cyfranwyr wrth i’r system aeddfedu. Mae cyfraddau’r ardoll a awgrymir yn amrywio rhwng 1% a 3% gyda’r cyfraddau uwch yn berthnasol i garfanau hŷn.

 

26.      Byddai’r arian o’r ardoll yn cael ei dalu i gronfa wedi’i chlustnodi. Gellid ei ddefnyddio i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer anghenion gofal presennol y boblogaeth yn ogystal ag ariannu cronfa tymor hwy i dalu am y cynnydd a ddisgwylir yn y galw am ofal gan genedlaethau’r dyfodol. Mae’r Athro Holtham yn rhagweld y bydd y duedd o boblogaeth sy’n heneiddio yn cyrraedd ei hanterth yn 2035. Fodd bynnag, fel y cynigiwyd, mae’n debyg na fyddai’r gronfa’n cael gwared ar yr angen i’r rheini sydd â’r gallu ariannol dalu tuag at gost eu gofal ac felly byddai angen rhyw elfen o brawf modd o hyd. 

 

Tystiolaeth ryngwladol

 

27.      Nid yw’r her o dalu am anghenion gofal poblogaeth sy’n heneiddio yn unigryw i Gymru neu’r DU. Mae gwaith ymchwil gan LE Wales, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013, yn amlinellu rhai o’r dulliau cyllido amgen a fabwysiadwyd mewn gwledydd eraill.

 

28.      Mae’r Almaen a Siapan yn gweithredu systemau, sy’n debyg i fodel yr Athro Holtham, gydag elfen codi refeniw penodol i ariannu gofal cymdeithasol. Mae’r ddwy enghraifft yn ceisio darparu cynnig mwy cyffredinol o ofal, sy’n awgrymu elfen uchel o rannu risg. Mae systemau nad ydynt yn rhai cyffredinol, ar y llaw arall – sy’n cael eu galw’n systemau rhwyd achub hefyd – ond yn mynd i’r afael â risgiau anghenion gofal y tu hwnt i’r hyn sy’n fforddiadwy i’r unigolyn.

 

29.      Bu yswiriant hirdymor gorfodol ar waith yn yr Almaen ers 1995. Yn ei hanfod, mae’n system orfodol o dalu wrth ennill, gyda chyfraniadau’n seiliedig ar gyflog, wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y cyflogwr a’r cyflogai. Yn fwy diweddar, bu’n ofynnol i’r rheini sydd wedi ymddeol wneud cyfraniadau llawn hefyd. Pennwyd y raddfa gyfrannu i ddechrau yn 1% o’r cyflog ym 1995, ond mae bellach wedi cyrraedd 2.55%. Mae pawb dros 23 heb blant yn talu tali

;’r gyfradd i 2.8%.  Mae’r cymhwysedd yn cael ei benderfynu ar sail system wedi’i graddio a ddefnyddir i bennu angen unigolyn am ofal. Ni fwriedir i’r system gynnwys yr holl gostau, dim ond anghenion sylfaenol. Mae gan y llywodraeth ffederal bwerau rheoleiddio a rheoli costau sylweddol dros y system, gyda’r gyllideb gyffredinol, y cyfraddau cyfrannu, y terfynau, lefelau’r budd-daliadau a’r meini prawf cymhwysedd wedi’u pennu drwy’r gyfraith ffederal. Gweithredodd y gronfa gyda diffyg blynyddol yn ystod canol y 2000au, ond mae bellach yn iach.

 

30.      Cyflwynwyd yr Yswiriant Gofal Hirdymor yn Siapan yn 2000. Mae’n ffurf ar yswiriant cymdeithasol ac mae premiymau yn orfodol i unrhyw un mewn cyflogaeth, sy’n 40 oed neu’n hŷn. Mae’r cynllun yn cymysgu’r premiymau penodol hyn sy’n gysylltiedig ag oedran gyda chyfraniadau o drethi cyffredinol (yn genedlaethol ac yn lleol). Mae tua hanner yr arian yn dod o drethi cyffredinol; un rhan o dair o bremiymau gan bobl rhwng 40 a 64 oed (ar raddfa o 1% o incwm) ac un rhan o chwech o bobl dros 65 oed (yn ôl tariff sefydlog o gyfraddau premiwm). Mae’n ofynnol bod y rheini sy’n cael gofal yn gwneud taliad ar y cyd o 10% ac yn cyfrannu at gostau preswyl a phrydau. Mae’r taliadau wedi’u capio ar £75 y mis ar gyfer y rheini ar gyflogau isel. Sefydlwyd y system yn wreiddiol fel system sy’n agored i bawb ar sail angen ond bu’n rhaid cyflwyno profion modd i helpu i reoli’r costau.

 

31.      Yn achos y systemau yn yr Almaen a Siapan, mae’r gwariant wedi cynyddu yn gynt na’r disgwyl, sydd wedi arwain at yr angen am nifer o ddiwygiadau polisi mewn ymateb i hynny i gyfyngu ar dwf yn y gost (gan gynnwys codi tâl ychwanegol yn Siapan a rhewi’r budd-dalidadau mewn termau arian parod yn yr Almaen). Fodd bynnag, mae’r gwariant yn y ddwy enghraifft yn awgrymu nad yw’r costau wedi cynyddu y tu hwnt i reolaeth, er gwaethaf y ffaith bod nifer y rheini sy’n derbyn gofal wedi cynyddu’n gyflym yn dilyn gweithredu’r system. 

 

Y camau nesaf

 

32.      Byddwn yn ystyried sut i fynd i’r afael â’r problemau a gyflwynir gan y pwysau a ragwelir yn y dyfodol yng Nghymru gan ddefnyddio’r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd ar sail yr enghreifftiau rhyngwladol ac ymchwil cyfredol, ac yn dilyn ymgysylltiad pellach â rhanddeiliaid allweddol yn y maes hwn. Yn benodol, byddwn yn ystyried a allai cyfraddau treth incwm Cymru, a gesglir o fis Ebrill 2019 ymlaen, chwarae rhan, neu, yn lle hynny, a ellid defnyddio’r pwerau codi treth a gyflwynwyd gan Ddeddf Cymru 2014 i gynnig treth ddatganoledig gwbl newydd.  

 

33.      I gynorthwyo gyda’r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil pellach gan yr Athro Holtham i archwilio ymhellach y materion a godwyd gan ei fodel ardoll gofal cymdeithasol a’r achos economaidd dros greu cronfa gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn ystyried sut y gallai’r gronfa weithredu; pa fanteision neu anfanteision allai fod iddi o gymharu ag opsiynau amgen, gan gynnwys y system talu wrth ennill draddodiadol; a’r prif risgiau sy’n gysylltiedig â’r gronfa. Yn gyffredinol, bydd yn cynnig dadansoddiad economaidd mynegol o’r cysyniad y gellir ei ystyried fel rhan o waith datblygu polisi yn y maes hwn.

 

34.      Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cynnal gwaith ymchwil ar y galw yn y dyfodol am ofal cymdeithasol i bobl hŷn yng Nghymru, a’r blaenoriaethau cyllido yn y dyfodol ar ei gyfer. Bydd y naill ddarn o ymchwil a’r llall yn helpu i hysbysu’r gwaith pellach o ddatblygu polisi yn y maes hwn a gwaith y grŵp rhyng-Weinidogol, sy’n cael ei sefydlu ar gais y Prif Weinidog i ddatblygu’r agenda hon.  Bydd y grŵp yn cael ei gadeirio gan y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol.

 

 

 

Casgliadau

 

35.      Mae tystiolaeth glir bod y pwysau ar ofal cymdeithasol y telir amdano gydag arian cyhoeddus yn debygol o gynyddu dros y 10 i 15 mlynedd nesaf a thu hwnt. Mae hefyd yn glir bod penderfynu ar yr ymateb polisi gorau i’r pwysau hwn yn arwain at nifer o gwestiynau pwysig, y bydd angen eu hystyried yn fwy manwl wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

 

36.      Mae’r prif gwestiynau yn fy maes cyfrifoldeb i yn ymwneud â’r gwahanol ffyrdd o ddarparu adnoddau ychwanegol i ateb y galw cynyddol am ofal cymdeithasol a’r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i alluogi i’r adnoddau hynny gael eu darparu. Mae ystyriaethau sydd yr un mor bwysig ynghylch cwmpas y system gofal y telir amdano gydag arian cyhoeddus yn y dyfodol. Er ein bod yn cydnabod yr anawsterau o ran datblygu ateb i Gymru yn unig, yn absenoldeb unrhyw gamau cadarn ar sail Llywodraeth y DU, rhaid inni ddechrau ystyried yn llawn yr opsiynau sydd ar gael inni i ymateb i’r her o ddarparu gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy’n gynaliadwy yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.

 

37.      Bydd y materion a gyflwynwyd yn cael eu hystyried ymhellach gan y grŵp rhyng-Weinidogol, sydd wedi’i gadeirio gan y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol, gan dynnu ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, gan gynnwys yr ymchwil ychwanegol gan yr Athro Holtham.

 

 

 

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Ebrill 2018