Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16/05/2018 i'w hateb ar 23/05/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

          Jane Hutt     Bro Morgannwg

1     OAQ52234

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ad-drefnu ysgolion ym Mro Morgannwg?

          Mark Isherwood     Gogledd Cymru

2     OAQ52214

Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gau ysgolion yng Ngogledd Cymru?

          Russell George     Sir Drefaldwyn

3     OAQ52212

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella safonau addysgol yn Sir Drefaldwyn?

          Dawn Bowden    Merthyr Tudful a Rhymni

4     OAQ52230

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd clybiau brecwast mewn ysgolion?

          Llyr Gruffydd     Gogledd Cymru

5     OAQ52238 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant cyfalaf ar ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf?

          Dai Lloyd     Gorllewin De Cymru

6     OAQ52225

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu cwricwlwm ysgol newydd yng Nghymru?

          Lee Waters     Llanelli

7     OAQ52241

Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i helpu ysgolion i hybu lles meddyliol?

          Mike Hedges     Dwyrain Abertawe

8     OAQ52210

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ysgolion yng Nghymru y mae Estyn wedi'u graddio yn ardderchog?

          Mandy Jones     Gogledd Cymru

9     OAQ52228

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn nodi arfer gorau mewn addysg i wella safonau?

          Sian Gwenllian     Arfon

10   OAQ52242 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion yr adolygiad o gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg?

          Mandy Jones     Gogledd Cymru

11   OAQ52227

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cwricwlwm y cyfnod sylfaen?

          Darren Millar     Gorllewin Clwyd

12   OAQ52216

Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i hybu cysylltiadau rhyngwladol ysgolion Cymru?

          Gareth Bennett     Canol De Cymru

13   OAQ52239

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o feysydd chwarae ysgolion?

          Mohammad Asghar     Dwyrain De Cymru

14   OAQ52219

Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu polisi Llywodraeth Cymru ar dderbyn i ysgolion?

          Rhun ap Iorwerth     Ynys Môn

15   OAQ52246 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyfforddi pobl ifanc Môn ar gyfer cyfleoedd gwaith lleol y dyfodol?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

         Jenny Rathbone     Canol Caerdydd

1     OAQ52244

Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ledled Cymru, yn sgil cyhoeddi adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar fwydo ar y fron?

          Sian Gwenllian     Arfon

2     OAQ52243 Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyfforddi therapyddion galwedigaethol yng ngogledd Cymru?

          Caroline Jones     Gorllewin De Cymru

3     OAQ52233

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae polisi gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru'n cefnogi pobl anabl?

          Joyce Watson    Canolbarth a Gorllewin Cymru

4     OAQ52229

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau dialysis arennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

          John Griffiths     Dwyrain Casnewydd

5     OAQ52222

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal a thrin salwch anadlol?

          Paul Davies     Preseli Sir Benfro

6     OAQ52209

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygon teulu yn Sir Benfro?

          Lee Waters     Llanelli

7     OAQ52240

Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori'n eang ar gynigion ar gyfer ad-drefnu ysbytai?

          Mohammad Asghar     Dwyrain De Cymru

8     OAQ52220

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith gwasanaeth gwrth-dwyll y GIG?

          Dawn Bowden    Merthyr Tudful a Rhymni

9     OAQ52237

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau ar gyfer cleifion mesothelioma yng Nghymru?

          Paul Davies     Preseli Sir Benfro

10   OAQ52208

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro?

          Suzy Davies     Gorllewin De Cymru

11   OAQ52235

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg?

          Adam Price     Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

12   OAQ52245

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynglŷn ag integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol?

          Vikki Howells     Cwm Cynon

13        OAQ52224

Sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi ac iechyd gwael?

          Mark Isherwood     Gogledd Cymru

14   OAQ52213

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddarparu gofal iechyd ar gyfer cymuned y lluoedd arfog?

          Mark Isherwood     Gogledd Cymru

15   OAQ52218

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ansawdd y gofal a ddarperir gan y GIG?