GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau INSPIRE (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 8 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

20 Tachwedd 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

19/20 Tachwedd 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

26 Tachwedd 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 14

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Er mwyn caniatáu i'r DU barhau i weithredu'r seilwaith data gofodol a sefydlwyd gan y Gyfarwyddeb INSPIRE, mae 'diffygion' yn Rheoliadau INSPIRE 2009 a chyfraith gysylltiedig yr UE a ddargedwir sy'n codi o ganlyniad i Ymadael â'r UE yn cael eu 'cywiro'.  Mae hyn yn sicrhau gweithredadwyedd cyfreithiol Rheoliadau INSPIRE 2009 a chyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl Ymadael â'r UE.

 

Mae'r cynghorwyr cyfreithiol yn gwneud y sylwadau canlynol mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 12 Tachwedd 2018 ynghylch y Rheoliadau hyn:

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau canlynol y Comisiwn: 1205/2008, 2009/442 a 976/2009 a 1089/2010, yn ogystal â Rheoliadau INSPIRE 2009.  Bydd Rheoliadau'r Comisiwn yn ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir drwy rinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.  Ymhlith gwelliannau eraill, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Comisiwn i osod cyfeiriadau at 'awdurdod priodol' yn lle cyfeiriadau at 'Aelod-Wladwriaethau'.  Caiff hyn ei ddiffinio fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon a Gweinidogion yr Alban mewn perthynas â'r Alban.  Nid yw datganiad Llywodraeth Cymru na Memorandwm Esboniadol Llywodraeth y DU yn esbonio pam mae Cymru'n cael ei thrin yn wahanol i'r Alban.

 

Mae'r ateb yn gorwedd yng ngweithrediad Cyfarwyddeb INSPIRE (2007/2/EC).  Fe'i trosglwyddwyd gan Reoliadau INSPIRE 2009 a Rheoliadau INSPIRE (yr Alban) 2009.  Yn unol â hynny, mae fframwaith deddfwriaethol ar wahân eisoes ar gyfer yr Alban, a ddargedwir gan y Rheoliadau presennol.  Ni fyddai wedi bod yn briodol defnyddio deddfwriaeth 'gywiro' i ddatganoli cyfrifoldebau i Weinidogion Cymru.  Serch hynny, byddai wedi bod o gymorth pe bai datganiad Llywodraeth Cymru wedi esbonio hyn.

 

Yn ddarostyngedig i'r sylwadau uchod, mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol dros geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.