GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
Rheoliadau Protocol Nagoya (Cydymffurfio) (Ymadael â’r UE) 2018 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 15 Tachwedd 2018 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Bydd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
27 Tachwedd 2018 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Yr wythnos yn dechrau 26 Tachwedd 2018 |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
3 Rhagfyr 2018 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 30 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Anhysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1) o, a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Diben y Rheoliadau hyn yw sicrhau bod rheoliadau yn y DU sy'n gweithredu Protocol Nagoya ar fynediad i adnoddau genetig a rhannu manteision yn deg ac yn gyfartal yn deillio o'u defnyddio, a fydd yn parhau i fod yn weithredol ar ôl i'r DU adael yr UE.
Mae'r DU yn rhan o Brotocol Nagoya yn ei rinwedd ei hun a bydd yn parhau i gael ei rwymo gan rwymedigaethau'r Protocol ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau cydymffurfiad parhaus â'r Protocol ar ôl gadael.
Cymhwysir y gyfundrefn gyfredol (sy'n cwmpasu materion datganoledig a rhai sydd heb eu datganoli) yn unffurf ar draws y DU gan Lywodraeth y DU. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd dull unffurf ar draws y DU yn parhau ar ôl gadael.
Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 20 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio am gynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |