GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Trapiau Dal Coesau a Mewnforion Crwyn (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 21 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

wythnos yn dechrau 3 Rhagfyr 2018

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

6 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 15

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (y Ddeddf), a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i’r Ddeddf.

 

Gwaharddodd Rheoliad y Cyngor (EEC) 3254/91 y defnydd o drapiau dal coesau yn yr Undeb Ewropeaidd a chyflwyno i mewn i’r UE fewnforion crwyn a nwyddau a weithgynhyrchir o rywogaethau anifeiliaid gwyllt penodol sy’n deillio o wledydd sy’n eu dal gyda thrapiau dal coesau neu ddulliau trapio nad ydynt yn cyrraedd safonau rhyngwladol rhwydo heb greulondeb.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad y Cyngor (EEC) 3254/91 a dau ddarn o ddeddfwriaeth gysylltiedig (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 35/97 a Phenderfyniad y Cyngor (EC) Rhif 97/602) i sicrhau eu gweithrediad yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE. Mae’r Rheoliadau hefyd yn dirymu Rheoliad cysylltiedig 1771/94 y Comisiwn a Phenderfyniadau 98/188 / EC y Comisiwn a 98/596.

 

Yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, bydd Rheoliad y Cyngor (EEC) 3254/91 (fel y’i diwygiwyd) yn gwahardd defnyddio trapiau dal coesau yn y DU a chyflwyno i mewn i’r DU (oni bai o Aelod-wladwriaethau’r UE) fewnforion crwyn, a nwyddau a weithgynhyrchir sy’n cynnwys crwyn, o rywogaethau anifeiliaid gwyllt penodol oni bai fod y crwyn yn deillio o wlad gymeradwy neu sy’n dod o anifeiliaid a gafodd eu magu’n gaeth. Nid yw dulliau rheoli mewnforio crwyn yn cael eu gosod ar Aelod-wladwriaethau’r UE gan y Rheoliadau hyn er mwyn osgoi newid polisi ac ehangu cylch gwaith Rheoliad y Cyngor (EEC) 3254/91 i gwmpasu gwledydd nad ydynt yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 22 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai’r Rheoliadau hyn yn rhoi polisi newydd ar waith mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi rheswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.