GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Sefydliadau Ewropeaidd a Gwarchodaeth Gonsylaidd (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 26 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen sifftio yn Senedd y DU?

Bydd

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin

11 Rhagfyr 2018

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi

wythnos yn dechrau 10 December

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

12 Rhagfyr 2018

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 27

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Ddim yn hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1), a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r OS wedi'i ddrafftio ar sail sefyllfa o ddim cyntundeb lle mae'r DU yn peidio â bod yn rhan o unrhyw un o sefydliadau a chyrff yr UE. Os cytunir ar gytundeb ymadael lle mae'r DU yn negodi i barhau'n rhan o rai o'r sefydliadau a'r cyrff hynny, yna gall rhannau o'r offeryn hwn gael eu gohirio neu eu dirymu.

 

Mae'r offeryn hwn yn dirymu, yn diwygio neu'n gwneud arbedion mewn perthynas â Hawliau Cytuniad Uniongyrchol Effeithiol (DETRs) sy'n deillio o Erthyglau'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd a'i Brotocolau ("TFEU"). Mae hefyd yn gwneud diwygiadau neu ddirymiadau mewn perthynas â chyfraith uniongyrchol yr Undeb Ewropeaidd ("RDEUL") sy'n cael eu cadw sy'n ymwneud â gweithrediad sefydliadau a chyrff yr Undeb Ewropeaidd a chymhwyso ei reolau yn neddfwriaeth yr UE.

Mae'r offeryn hwn hefyd yn mynd i'r afael â dwy Erthygl nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â sefydliadau'r UE ond sy'n ymwneud â diogelwch consylaidd mewn gwledydd nad ydynt yn rhan o'r UE. Mae'r rhain yn darparu, os yw dinesydd yr UE mewn gwlad y tu allan i'r UE, lle nad oes gan eu gwlad gynrychiolaeth gonsylaidd neu ddiplomyddol, yna mae gan ddinesydd yr UE hawl i amddiffyniad gan awdurdodau diplomyddol neu gonsylaidd unrhyw Aelod-wladwriaeth, ar yr un amod â gwladolion y Wladwriaeth honno.

 

Mae'r offeryn hwn hefyd yn mynd i'r afael â phrotocolau sy'n ymwneud â Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd a breintiau a breinryddid yr Undeb Ewropeaidd.

 

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau canlynol mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 30 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

Mae paragraff 10.1 y Memorandwm Esboniadol yn nodi, yn unol â'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 ("EUWA"), yr ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch y Rheoliadau hyn. Rhoddodd Llywodraeth Cymru ganiatâd i lywodraeth y DU, mewn llythyr gan Mark Drakeford AC dyddiedig 22 Tachwedd 2018. Er gwaethaf y gofyniad i ymgynghori, nid yw datganiad Llywodraeth Cymru yn nodi pa bwerau deddfwriaethol y Cynulliad neu bwerau gweithredol Gweinidogion Cymru y mae'r offeryn hwn yn effeithio arnynt. Mewn gwirionedd, ymddengys bod yr offeryn yn ymwneud â meysydd nad ydynt wedi eu datganoli. Mae cynghorwyr cyfreithiol yn argymell y dylid ceisio eglurhad ynghylch pa bwerau datganoledig yr effeithir arnynt.

 

Er bod datganiad Llywodraeth Cymru yn nodi nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi ar gyfer cywiro, nid yw'r datganiad yn dangos i ba raddau y mae'r offeryn hwn yn effeithio ar feysydd datganoledig, ac i ba raddau roedd angen caniatâd gan Lywodraeth Cymru. Yr unig beth ddywed y datganiad yw bod caniatâd wedi'i roi am resymau effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y gwelliannau.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn creu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.