GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Pwerau Penderfyniad Cyfiawnhau (Ymadael â’r UE) 2018

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 23 Tachwedd 2018

Sifftio

A fydd angen sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin

Amh 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi

w/c 3 Rhagfyr 2018

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amh

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 37

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amh 

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1), a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae’r rheoliadau hyn yn rhoi pŵer newydd i’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinyddiaethau Datganoledig wneud penderfyniadau cyfiawnhau ar ffurf rheoliadau ar gyfer dosbarthau a mathau o arferion sy’n ymwneud ag ymbelydredd ïoneiddio at ddibenion y Cyfiawnhau Arferion sy'n Ymwneud â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio 2004. Ni fydd y pwerau i wneud rheoliadau at y diben hwn bellach ar gael unwaith y bydd Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn cael ei diddymu. Nid yw'r Rheoliadau'n deddfu unrhyw bolisi newydd.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 28 Tachwedd 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 y Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.