GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

Rheoliadau Darpariaethau Cyffredin a Rheolau Darpariaethau Cyffredin y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd etc. (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 28 Ionawr 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

 

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

 

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur xx

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dd/B

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Nid yw'n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Nid yw'n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21(a)(ii) a (b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Mae Rheoliadau amrywiol yn yr UE yn sefydlu cronfeydd y bwriedir iddynt leihau anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd ar draws yr UE.  Y cronfeydd sy'n berthnasol i'r offeryn hwn yw:

 

(i)                 Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC).  Gelwir y rhain gyda'i gilydd yn "Gronfeydd Strwythurol"; a'r

(ii)               Gronfa Gydlyniant (CF).

 

Mewn achos o ymadael â'r UE heb gytundeb, ni fydd Rheoliadau'r UE sy'n llywodraethu'r Cronfeydd Strwythurol a'r Gronfa Gydlyniant bellach yn gweithredu.

 

Bwriad polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw bod y prosiectau a ariennir eisoes yn parhau, lle bo angen, gan ddefnyddio cyllid domestig.  

 

Mae rheoliadau 3 a 4 o'r offeryn hwn yn dirymu a/neu'n datgymhwyso Rheoliadau perthnasol yr UE.  Mae rheoliad 6 yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol ac i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ariannol at ddibenion parhau i gefnogi'r prosiectau hynny gan ddefnyddio cronfeydd domestig.

 

Ni fydd yr offeryn hwn yn diogelu prosiectau'r Cronfeydd Strwythurol na phrosiectau'r Gronfa Gyndlyniant sy'n cael eu lansio ar ôl y diwrnod ymadael.

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru ar 31 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

Mae'r Datganiad yn nodi offerynnau UE sy'n cael eu diwygio neu eu dirymu.  Mae'r rhestr o offerynnau yn gywir, ac eithrio'r eitemau a ganlyn--

 

(i)                 Mae'r Datganiad yn cyfeirio at ddau offeryn nad ydynt wedi'u cynnwys yng nghwmpas y Rheoliadau hyn,   sef:

 

a.      Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) 2015/616, 13 Chwefror 2015; a

b.     Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) 2016/207, 20 Ionawr 2015.

 

(ii)               Ar y llaw arall, mae'r Datganiad yn hepgor nifer o offerynnau sydd yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn.  Rhestrir yr offerynnau hynny ym mharagraffau 14, 15, 16 a 17 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau, ac ym mharagraffau 2, 4, 8, 9 a 10 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau.

 

(iii)             Mae'r Datganiad yn cyfeirio at 2014/266/UE: Rheoliad Penderfynu’r Comisiwn, 16 Mehefin 2014. Credwn fod y cyfeiriad hwn yn wall teipograffyddol ac y dylai'r datganiad gyfeirio at '2014/366/UE'.

 

Mae Rheol Sefydlog 30A.4 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru grynhoi amcan y Rheoliadau (Rheol Sefydlog 30A.4(1)) ac i bennu i ba raddau y mae'r Rheoliadau yn gwneud (neu i ba raddau y byddai'r Rheoliadau yn gwneud) darpariaeth berthnasol (Rheol Sefydlog 30A.4(ii)).  Mae'r Datganiad yn nodi mai 'bwriad yr Offeryn Statudol yw...', ac yna'n nodi'r bwriad polisi.  Mae'r effaith wedi'i nodi drwy gyfeirio at Femorandwm Esboniadol Llywodraeth y DU.  Nid yw'r ddibyniaeth ar ddeunydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn bodloni gofynion Rheol Sefydlog 30A.4(ii). Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi ei gasgliadau ei hun mewn ymateb i ofynion y Rheol Sefydlog.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'r cam o Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.