GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
87 - Rheoliadau Hylendid Bwyd Penodol (Diwygiadau ac ati) (Ymadael â'r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 31 Ionawr 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
|
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
|
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 20 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dd/B |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau Cadarnhaol drafft hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r offeryn statudol hwn yn cael ei wneud i gywiro elfennau o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir na fydd modd eu gweithredu yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Er mwyn cynnal diogelwch bwyd ar ôl i'r DU ymadael â’r UE, mae angen sicrhau bod Rheoliadau presennol yr UE yn cael eu dargadw yng nghyfraith y DU ar ffurf y gellir ei gweithredu. Mae'r offeryn hwn yn cyflawni hyn yn bennaf ar gyfer Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ond hefyd ar gyfer rhai Rheoliadau cysylltiedig. Mae Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 yn pennu gofynion penodol ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sy'n cynhyrchu ac yn trin rhai cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid. Er mwyn iddynt weithredu, mae'n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd o'r fath gael eu cymeradwyo gan 'awdurdod cymwys' (sef yr ASB mewn lladd-dai a gweithfeydd torri ac awdurdodau lleol mewn sefydliadau eraill) ac fel rhan o hyn, rhoddir rhif unigryw i bob sefydliad. Yn y DU, gallai hyn effeithio ar 64,531 o sefydliadau busnes bwyd cymeradwy.
Mae'r ddeddfwriaeth a ddargedwir fel y'i diwygiwyd gan yr offeryn hwn yn sicrhau y cynhelir hyn yn achos senario "dim bargen". Bydd unrhyw gytundebau a wneir yn ystod y trafodaethau ymadael sy'n effeithio ar y gyfundrefn reoleiddio bwyd yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ddiwygiadau i'r offeryn hwn yn y dyfodol.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 4 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|