GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

90 - Rheoliadau Bwydydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Diwygiad) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 31 Ionawr 2018 

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Bydd   

Gweithdrefn:

Negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin

Nid yw’n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

19 Ionawr 2019

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 26

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Nid yw’n ofynnol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Nid yw’n hysbys 

Y weithdrefn

Negyddol neu Gadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Nid yw’n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ’r Cyffredin

Nid yw’n hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

Nid yw’n hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân welliant i ddeddfwriaeth uniongyrchol yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir, mewn perthynas â bwydydd wedi’u rhewi’n gyflym. Mae’r gwelliant yn egluro bod y gyfraith yr UE a ddargedwir yn gymwys yn y DU yn unig, ac nid yn Aelod-wladwriaethau’r UE. 

 

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 4 Chwefror ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.