GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
114 - Rheoliadau Cynhyrchu a Rheoli Organig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 13 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Dd/B |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 50 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dd/B |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio dau Reoliad yr UE ac Atodiad 2 i’r Cytundeb AEE. Diben y Rheoliadau hyn yw sicrhau bod safonau organig yn aros yr un peth ar gyfer gweithredwyr organig, ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, fel y maent yn awr.
Mae’r Rheoliadau yn diwygio’r ddeddfwriaeth ganlynol:
· Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynnyrch organig; · Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 889/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynnyrch organig o ran cynhyrchu, labelu a rheolaeth organig; · Dirymir paragraff 54b o Bennod 12 o atodiad 2 i’r Cytundeb AEE.
Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 18 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o’r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.
|