GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
124 - Rheoliadau'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 28 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amh. |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amh. |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 26 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Ddim yn ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amh. |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a phargraff 21 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno.
Mae Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE yn rheoleiddio gweithgareddau pysgota a'r broses o orfodi'r gweithgareddau hynny yn nyfroedd y DU. Mae'r Polisi’n cynnwys tua 100 o Reoliadau'r UE sy'n pennu dull cyffredin o reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy drwy’r UE a'i dyfroedd. Mae'r Rheoliadau'n cael effaith uniongyrchol yng nghyfraith y DU.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau technegol i fynd i'r afael â diffygion yn neddfwriaeth y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Maent yn disodli cyfeiriadau at yr EU â chyfeiriadau at y DU ac yn rhoi pwerau gweithredu i’r 'gweinyddiaethau pysgodfeydd', sy'n cynnwys Gweinidogion Cymru mewn perthynas â dyfroedd a llongau Cymru.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 1 Mawrth 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Nid yw'r cynghorwyr cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o’r Memorandwm sy’n cyd-fynd â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|