GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
133 - Rheoliadau’r Amgylchedd (Swyddogaethau Deddfwriaethol o Gyfarwyddebau) (Ymadael Â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 6 Mehefin 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Dd/B |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Dd/B |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 6 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw'n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 2(1) o Atodlen 7 iddi.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o Gyfarwyddebau'r UE i drosglwyddo cyfres o swyddogaethau deddfwriaethol a roddir i'r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd, i'w harfer, yn lle hynny, gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac, mewn perthynas â materion a ddatganolwyd i Gymru, gan Weinidogion Cymru. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir arfer swyddogaethau o'r fath yn genedlaethol ar ôl i'r DU ymadael â’r UE. Yn y rhan fwyaf o achosion, lle y mae pŵer i'w arfer gan Weinidogion Cymru, bydd hefyd yn bosibl i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer y pwerau ar eu rhan, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae'r swyddogaethau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol a, lle y bo'n briodol, i Weinidogion Cymru, yn gyffredinol yn rhoi pŵer cyfyngedig i ddiweddaru deddfwriaeth i adlewyrchu datblygiadau technegol a gwyddonol.
Mae'r Cyfarwyddebau a ddiwygir gan y Rheoliadau yn ymdrin ag ansawdd aer, sŵn amgylcheddol, seilwaith ar gyfer gwybodaeth ofodol, strategaeth forol ac ansawdd dŵr.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 7 Mehefin 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:
1. Nid yw'r Datganiad yn ddigon penodol i alluogi’r Cynghorwyr Cyfreithiol i ganfod yr effaith y gall y Rheoliadau ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru. Er enghraifft, mae'r paragraffau o dan y pennawd “Ansawdd Aer, Dŵr a Sŵn Amgylcheddol” yn cadarnhau'r gyfraith fel y'i nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 ond nid ydynt yn cynnwys asesiad o effaith benodol y Rheoliadau ar gymhwysedd yn y meysydd polisi hynny.
Ac eithrio’r pwynt a wnaed yn 1 uchod, mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Rydym yn fodlon bod y Rheoliadau yn gwneud cywiriadau yn hytrach na pholisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |