GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

138 – Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Swyddogaethau Deddfwriaethol) a Milfeddygon (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gosodwyd yn Senedd y DU: 26 Mehefin 2019

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Paper 2

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Amherthnasol

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol 

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud newidiadau technegol i ddeddfwriaeth bresennol yr UE i'w gwneud yn weithredadwy.

 

Ar hyn o bryd mae trydydd gwledydd yn cyflwyno cais i'r Comisiwn i gael eu rhestru fel gwlad y gall Aelod-Wladwriaethau'r UE fewnforio ganddynt.  Mae'r Comisiwn hefyd yn pennu'r gofynion y mae'n rhaid i'r gwledydd hynny eu bodloni er mwyn parhau ar y rhestr.  Mae Cyfarwyddebau amrywiol y Cyngor yn rhoi’r pŵer i Gomisiwn yr UE ddiwygio rhestrau o'r fath, ond ni fydd y Cyfarwyddebau hynny yn rhan o ddeddfwriaeth yr UE a gedwir ar y diwrnod ymadael.  Bydd y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod y pwerau deddfwriaethol hyn, sydd wedi'u cynnwys yng Nghyfarwyddebau'r UE, yn weithredadwy ar ôl i'r DU ymadael â’r UE, ac maent yn caniatáu i'r DU weithredu'n unol â'r UE a thrydydd gwledydd cymeradwy, at ddibenion mewnforion anifeiliaid a chynhyrchion.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i arfer swyddogaethau deddfwriaethol/gweinyddol mewn perthynas â'r DU gyfan, yn lle'r Comisiwn Ewropeaidd. 

 

Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu bod yn cefnogi cais y DU i gael ei rhestru fel trydedd gwlad gan yr UE ar gyfer anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid. Nodir yn y Memorandwm Esboniadol bod cais y DU wedi'i gymeradwyo gan yr UE ym mis Ebrill 2019 fel un a oedd yn bodloni'r gofynion sylfaenol ar y pryd (gweler paragraff 2.2 o'r Memorandwm Esboniadol).

 

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn trosglwyddo swyddogaethau deddfwriaethol i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn perthynas â'r DU, ond dim ond os ceir cydsyniad Gweinidogion Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill wrth wneud deddfwriaeth o'r fath. Mae'r pŵer i wneud rheoliadau yn caniatáu i restrau'r DU o drydydd gwledydd cymeradwy gael eu diwygio, gan ganiatáu i wledydd gael eu hychwanegu, eu hamrywio neu eu tynnu oddi ar y rhestr. Cyn gwneud Rheoliadau, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried barn y gweinyddiaethau datganoledig (gan gynnwys Gweinidogion Cymru). Bydd y ddarpariaeth hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i ofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer ei bwerau ledled y DU. Bydd yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol roi ystyriaeth briodol i unrhyw gais o'r fath.

 

Gall y swyddogaethau a drosglwyddir i'r Ysgrifennydd Gwladol fod yn gyfystyr â swyddogaethau un o Weinidogion y Goron at ddibenion Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Pe bai'r Cynulliad yn cyflwyno Bil yn y dyfodol i geisio dileu neu addasu'r swyddogaethau hyn, gallai hynny olygu y bydd gofyn ymgynghori â Llywodraeth y DU.

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 27 Mehefin 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, mae'r datganiad yn codi rhai cwestiynau ychwanegol am y dull gweithredu nad oes atebion clir iddynt yn y datganiad. Mae'n nodi “nad oes unrhyw Safleoedd Archwilio Ffiniau yng Nghymru”, ond nid yw'n esbonio a ddylai fod safleoedd ar ôl Brexit, e.e. yng Nghaergybi neu Abergwaun. Mae hyn yn arbennig o berthnasol os oes safleoedd archwilio ffiniau e.e. yn Lerpwl, a allai olygu y bydd anifeiliaid/cynhyrchion anifeiliaid yn cyrraedd drwy Lerpwl yn hytrach na Chaergybi.  Mae'r datganiad hefyd yn nodi y “byddai unrhyw anifeiliaid neu gynhyrchion sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid yn cyrraedd Lloegr i ddechrau fel arfer”, ond nid yw'n esbonio ym mha fodd nac i ba leoliadau y byddai anifeiliaid/cynhyrchion anifeiliaid yn debygol o gyrraedd e.e. ar awyren i un o feysydd awyr Lloegr neu drwy Dover. At hynny, mae'n nodi “ni fyddai gofynion gwlad ond yn newid mewn ymateb i risg bioddiogelwch, a byddai ymateb effeithlon a brys ar draws y DU gyfan yn ofynnol ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath”. Nid yw'n esbonio unrhyw fesurau diogelu a roddir ar waith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gwneud hyn mewn modd amserol a chynhwysfawr, er mwyn diogelu buddiannau Cymru.

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.