Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) |
Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill |
CADRP-73 |
CADRP-73 |
Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.
Amdanoch Chi
Unigolyn
- Nac ydw
Mae i rhieni cael eu gwahardd rhag cosbi neu disgyblu eu plant yn gorfforol yn anghywir. Mae cosb rhesymol yn gywir. Eisioes mae yna ddeddfau i warchod plant rhag camdrin corfforol ac mae yna wahaniaeth mawr rhwng camdriniaeth a chosb /disgyblaeth cariadus ysgafn. Nid wyf yn meddwl fod disgyblaeth corfforol yn dysgu plant i fod yn dreisgar- does dim tystiolaeth yn dangos hynny. Mae'r potensial i griminaleiddio rhieni cariadus a gwahanu plant wrth eu rhieni yn ddychryn. Nid oedolion yw plant a ni ddylent gael ei trin fel oedolion bach. Maent yn haeddu parch a chariad eu rhieni ac yn haeddu cael eu dysgu beth sy'n dda/drwg/diogel/ peryglus gan y rhieni yna sy'n eu caru a'u nabod orau.
Na. Mae angen defnyddio y deddfau sydd eisioes mewn grym i gosbi y rhai sy'n camdrin plant, nid ceisio cosbi rhieni da sy'n disgyblu eu plant yn ofalus. Mae diffyg parch plant at eiddo, phobl ac awdurdodau yn ymddangos fel petai yn gwaethygu. Ni ddylid ei wneud yn fwy anodd i rhieni i geisio fagu eu plant i barchu y pethau yma.
Mae yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol ayyb eisioes yn gweithio dan straen. Mae prinder cyffredinol o staff ac adnoddau. Byddai ceisio gweithredu'r ddeddf newydd yn gwneud pethau yn waeth. Dwi'n ofni y bydd rhieni cariadaus,da sy'n credu yn gydwybodol fod disgyblaeth corfforol rhesymol yn gywir yn cael eu gwneud yn droseddwyr ac y bydd teuluoedd yn cael eu chwalu. Mae hynny yn llawer mwy creulon na smac ysgafn i ddisgyblu.
Nac ydw.
Wedi son am hyn eisioes. Pwysau gwaith cynnyddol. Peryg o chwalu teuluoedd hapus. Plant yn fwy anodd eu disgyblu.
-
-