Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)
Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) |
Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill |
CADRP-109 |
CADRP-109 |
Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.
Amdanoch Chi
Unigolyn
- Nac ydw
Ni ddylid criminaleiddio rhieni cariadus. Byddai gwahardd smacio - sy'n gallu bod yn rhesymol ac yn effeithiol o ran disgyblu plant - yn berygl o droi miloedd o rieni yn droseddwyr dros nos tra'n gwneud dim i rwystro rhieni gwael rhag camdrin eu plant. Yn wir, mae'r rheini hynny eisoes yn atebol i'r gyfraith.
Mae smacio wedi digwydd dros ganrifoedd a chenedlaethau lawer - gan gynnwys fy nghenedlaeth i - a bu tipyn mwy o siap a threfn ar gymdeithas bryd hynny. Rol rhieni ac nid y llywodraeth yw penderfynu smacio eu plant neu beidio. Mae'r llywodraeth yn ymyrryd fwyfwy mewn materion fel hyn ac yr ydym mewn perygl o droi'r Wladwriaeth yn unbennaidd ac yn ormesol.
Nid camdrin plant yw smacio. Mae cerydd a chariad yn cydfyned a'i gilydd.XXX.
Mae'r gyfraith yn amddiffyn plant rhag trais yn barod. Mae'n gwbl gamarweiniol i ddisgrifio smac gariadus fel trais.
Canfu pol piniwn ComRes yn 2017 fod 76% o oedlion yng Nghymru yn erbyn criminaleiddio smacio, gyda dim ond 11% o blaid.
Defnyddir smacio rhesymol fel modd i rybuddio plant o beryglon cyn eu bod yn deall rhybuddion llafar gan arbed plant rhag gwneud niwed mawr iddynt eu hunain.
Gall gwahardd smacio orlwytho'r heddlu a gweithwyr cymdeithasol gyda man achosion, gan dynnu eu sylw a'u hamser oddi wrth droseddau llawer mwy difrifol, megis trais cyllyll, neu gamdrin cyffuriau, sydd yn dal i gynyddu'n frawychus.
Ar yr un pryd, oherwydd toriadau cyllidol, mae nifer y plismyn a'r gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cwtogi!
Yn Sweden, cynyddodd trais un plentyn yn erbyn y llall ar ol gwahardd smacio yn 1979.
Nac ydyw yn fy marn i - mae'n adlewyrchu meddylfryd rhai yn y llywodraeth i gyflawni rhai polisiau penodol er gwaetha'r dadleuon sylweddol yn eu herbyn - ac felly mae amheuon y bydd hwn eto'n ymgynghoriad a fydd wedi ei setlo eisoes.
Dywed cefnogwyr y bil y dylai'r gyfraith fod yr un peth i blant ag i oedolion. Ond nid oedolion yw plant. Mae rhieni yn gwneud llawer o bethau dros blant na fyddent yn eu gwneud i oedolion, ac na fyddai angen iddynt wneud i oedolion.
Y gwir yw y gallai hyn wneud mwy o niwed i blant, teuluoedd a chymdeithas gan nad ydynt wedi eu dysgu i weithredu hunan-ddisgyblaeth - dyna fwriad pob disgyblu yn y pen draw.
Mae'r sylwadau uchod ar bwysau gwaith a chyflogi plismyn a gweithwyr cymdeithasol yn berthnasol iawn yn fy nhyb i.
Nac oes.