Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill

CADRP-164

CADRP-164

Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.

Amdanoch Chi

Unigolyn

1      Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1     A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)?

-       Nac ydw

1.2     Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

Mae perthynas rhieni a phlentyn yn berthynas arbennig ac unigryw.  Nid oedolion yw plant a defnyddir smacio gyda phlant am eu bod yn ddibynnol ar eu rhieni ac angen eu dysgu i wahaniaethu rhwng beth sy'n iawn neu'n anghywir. Nid oes dim tystiolaeth sy'n cyfiawnhau gwneud rhieni, sy'n caru eu plant ac am eu disgyblu'n rhesymol drwy roi smac ysgafn, yn droseddwyr.  Nid oes dim o'i le ar smac ysgafn achlysurol yng nghyd destun perthynas rhiant/plentyn cariadus.  Mae'r llywodraeth wedi cyfaddef hyn yn eu hymgynghoriad Awst llynedd ac mae gwneud smacio gan rieni yn ymyrraeth afresymol gan y llywodraeth mewn bywyd teulu. Mae'r gost echrydus o geisio cario allan y ddedf (petai'n cael ei phasio) ond yn tynnu ymaith arian oddi wrth yr heddlu a'r gweithwyr cymdeithasol hynny sy'n ceisio dod i'r afael â'r dasg anodd o ddod o hyd i'r bobl sy'n wirioneddol yn camdrin plant.

1.3     A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

Mae'r gyfraith sydd eisoes yn bodoli yn amddiffyn plant rhag cael eu camdrin ac nid oes angen ei newid.  Mae unrhyw gosb neu ddisgyblu sy'n ormodol yn barod yn drosedd.

2      Gweithredu’r Bil

2.1     A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

-

2.2     A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

-

3      Canlyniadau anfwriadol

3.1     A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

Golyga 'diddymu amddiffyniad cosb resymol' fod smac ysgafn gan riant yn cael ei alw'n ymosodiad ac yn troi rhieni cariadus arferol yn droseddwyr.  Byddai'r holl uned deuluol yn cael ei effeithio wrth i rieni efallai golli swyddi ac o bosibl eu gwahardd rhag gofalu am eu plant. Byddai galw smac yn gamdrin yn beryglus hefyd i'r plant sydd mewn perygl gwirioneddol o gael eu camdrin, gan y byddai cymaint o gyllid gwasanaethau cymdeithasol a heddlu yn mynd i erlyn rhieni.

4      Goblygiadau ariannol

4.1     A oes gennych farn ar oblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os na, ewch i gwestiwn 5.1

-

5      Ystyriaethau eraill

5.1     A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

O'm profiad personol fel un a gafodd ei disgyblu yn gorfforol gan rieni cariadus rwyf mor ddiolchgar eu bod wedi fy ffrwyno yn sydyn ac yn bwrpasol.  Hefyd fel rhiant i 4 o blant gwn mewn rhai achlysuron mai rhoi smac yw'r ffordd orau i ddelio â phlentyn er ei les. Mae'n rhaid disgyblu plant iddynt ddod yn aelodau gwâr o gymdeithas ac wrth ymatal rhag unrhyw gosb gorfforol credaf y gall rhai dulliau y bydd rheini'n eu defnyddio i ddisgyblu fod yn andwyol i feddwl ac emosiynau plentyn. Hoffwn dynnu sylw at ganlyniad adroddiad Wales Centre for Public Policy a'ch ymghynghoriad chwi sy'n nodi nad oes tystiolaeth fod smacio yn niwedio plant.  Mae'r farn gyhoeddus  yn erbyn gwneud smacio plant yn drosedd - gweler TalkParenting Awst llynedd.