Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill

CADRP-248

CADRP-248

Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.

Amdanoch Chi

Unigolyn

1      Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1     A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)?

-       Nac ydw

1.2     Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

Fel athrawes rydw i'n ymwybodol na all y gwasanaethau cymdeithasol  ddelio yn effeithiol gyda'r llwyth gwaith sydd ganddyn nhw eisioes heb ddelio a rhieni cariadus sydd yn ceisio dysgu eu plant i fod yn ddinasyddion cyfrifol drwy eu ddysgu  beth sydd yn iawn a beth sydd yn anghywir. 

Cydrifoldeb rhieni yw penderfynu sut i fagu eu plant - nid rol llywodraeth yw magu plant.

Rydw i'n chwyrn yr erbyn camdrin plant o unrhyw fath , ac mae cymaint o ffyrdd mae plant yn cael eu camdrin gan rieni pan nad oes trefn a disgyblaeth yn y cartref e.e. dulliau seicolegol creulon i geisio cael trefn, diffyg cwsg, diet afiach, oriau maith yn chwarae gemau ar sgrin, a.y.b. nid yw smac sy'n cael ei rhoi er lles y plentyn yn gamdrin.

heb ddisgyblaeth yn y cartref mae plant, teuluoedd a chymdeithas yn mynd i ddioddef.

Mae trais gan blant yn erbyn plant yn Sweden wedi codi ers i ddeddf debyg gael ei chyflwyno yno.

Cefais i fagwriaeth llawn cariad, ond roeddwn yn cael smac pan yn ddrwg. NID OEDD fy rhieni yn gamdrinwyr plant!

1.3     A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

Mae'r gyfraith fel ac y mae hi yn diogelu plant.

Ni ellir trin plant yn yr un un ffordd ac oedolion, mae angen cadw'r gwahaniaeth yn y ddeddf achos nid oedolion yw plant.

Arolwg 2017 ComRes yn dangos mai dim ond 11% o'r boblogaeth sydd o blaid gwneud smacio'n drosedd.

2      Gweithredu’r Bil

2.1     A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

Diffyg arian cyhoeddus - mae rhai plant mewn cartrefi di-drefn (chaotic) eisioes yn cael cam oherwydd diffyg adnoddau gan y gwasanaethau cymdeithasol (siarad o brofiad fel athrawes).

Diffyg adnoddau gan yr  heddlu i ymchwilio i adroddiadau dibwys.

Diffyg adnoddau gwasanaethau cymdeithasol achosion o wir drais yn cael eu methu - plant sydd wir angen eu hamddiffyn yn cael cam.

2.2     A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

Nac ydw

3      Canlyniadau anfwriadol

3.1     A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

Rhieni da a chydwybodol yn cael eu gwneud yn droseddwyr.

Plant yn cael cam ofnadwy drwy beidio cael disgyblaeth.

Disgyblaeth yn ein hysgolion yn gostwng - safon addysg yn disgyn.

Cost eithriadol i'r pwrs cyhoeddus.

Cymdeithas yn mynd yn fwy anhrefnus ac anarchiaeth yn codi ei ben

Carchardai yn llenwi

 

4      Goblygiadau ariannol

4.1     A oes gennych farn ar oblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os na, ewch i gwestiwn 5.1

-

5      Ystyriaethau eraill

5.1     A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

Fel rhiant sydd yn caru fy mhlant yn angerddol, ac sydd wedi magu pedwar o blant sydd wedi tyfu i fod yn oedolion cyfrifol ac mewn swyddi sydd o fydd i gymdeithas apeliaf arnoch i beidio pasio'r ddeddf yma. Roedd fy ngwr a minnau yn rhoi smac pan fyddai y plant yn herio ein hawdurdod fel rieni, ac erbyn hyn meant yn diolch i ni am fod yn gadarn efo nhw a'u dysgu i barchu awdurdod ac i ddangos iddyn nhw beth sy'n iawn a beth sydd ddim.