GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
76 - Rheoliadau REACH etc. (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (“Rheoliadau 2019”) Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 9 Ionawr 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Ty'r Cyffredin |
Amh |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
21/01/2019 |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amh |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 11 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amh |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ty'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Ty'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adrannau 8, 14(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 1, Atodlen 4 i'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion yng nghyfraith yr UE sy'n gysylltiedig â chofrestru, gwerthuso, awdurdodi a chyfyngu cemegau, a elwir yn 'REACH'. Mae'r offeryn hefyd yn sicrhau y bydd deddfwriaeth yr UE yn gweithredu'n effeithiol yn y cyd-destun domestig ar ôl i'r DU ymadael â'r UE a chreu system reoleiddiol y DU ar gyfer cemegau (yn debyg i gyfundrefn 'REACH' bresennol yr UE) drwy wneud diwygiadau i offerynnau Ewropeaidd sy'n uniongyrchol berthnasol a hefyd i is-ddeddfwriaeth ddomestig. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaethau pontio i liniaru unrhyw amharu ar gadwyni cyflenwi presennol. Mae trefn REACH yn ymwneud â materion datganoledig a rhai a gadwyd yn ôl, gan ei bod wedi'i chynllunio i ddiogelu iechyd a diogelwch gweithwyr (mater sydd wedi'i gadw yn ôl yng Nghymru) yn ogystal ag iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd (sydd wedi'u datganoli).
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 11 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|