GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
155 - Rheoliadau'r Rhaglen Hawliau, Cydraddoldeb a Dinasyddiaeth (Dirymu) (Ymadael â'r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Hydref 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Nac ydynt |
Y weithdrefn: |
Gwneud cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Amherthnasol |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 16 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Y weithdrefn |
Gwneud cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi. Yn unol â pharagraff 5(2) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018, mae'r Ysgrifennydd Gwladol o'r farn ei bod yn angenrheidiol, oherwydd bod brys, i wneud y Rheoliadau heb i ddrafft gael ei osod gerbron y ddau Dŷ Seneddol, a chael ei gymeradwyo gan benderfyniad gan y ddau.
Mae'r offeryn yn dirymu Rheoliad (UE) Rhif 1381/2013 (y “Rheoliad”) Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 17 Rhagfyr 2013, gan sefydlu Rhaglen Hawliau, Cydraddoldeb a Dinasyddiaeth ar gyfer y cyfnod 2014 i 2020. Ei nod yw gwarchod a hyrwyddo hawliau a rhyddidau penodol unigolion o dan gyfraith yr UE. Yn benodol, mae'n darparu cyllid ar gyfer prosiectau amrywiol.
Os bydd y Comisiwn Ewropeaidd, o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, yn peidio â darparu cyllid i gyfranogwyr y DU, mae'r offeryn yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu cymorth ariannol i wneud iawn am y diffyg. Dim ond i brosiectau a sefydlwyd o dan y Rheoliad y bydd y ddarpariaeth yn berthnasol, a hynny pan roddwyd cyllid ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny, ond cyn 31 Rhagfyr 2020. Felly, mae'r offeryn yn cael effaith drosiannol.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 16 Hydref 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
|