GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

157 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Mesurau’r Farchnad, Hysbysiadau a Thaliadau Uniongyrchol) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Hydref 2019

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Gwneud cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 20

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Gweithdrefn

Gwneud cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Sylwadau

 

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Mae'r offeryn yn diwygio darpariaethau deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sy'n ymwneud â Pholisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (“PAC”). Mae'r offeryn yn diwygio pedwar offeryn Ewropeaidd sy'n uniongyrchol berthnasol yn ymwneud â grwpiau cynhyrchwyr, sefydliadau cynhyrchwyr a hysbysiadau yn y sector ffrwythau a llysiau a’r sector prosesu ffrwythau a llysiau. Bydd deddfwriaeth yr UE y mae'r Rheoliadau hyn yn ei diwygio yn cael ei chadw’n ôl os yw’r DU yn gadael yr UE mewn senario 'dim bargen'. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i sicrhau bod y darpariaethau'n parhau i fod yn weithredol ar ôl i'r DU ymadael â’r UE.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio un offeryn domestig yn sgil ymadael â’r UE, sef Rheoliadau Amaethyddiaeth (Swyddogaethau Deddfwriaethol) (Ymadael â’r UE) 2019, sy'n ymwneud â'r mecanwaith disgyblaeth ariannol. 

 

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU ar 14 Hydref 2019 ac maent yn ddarostyngedig i'r weithdrefn 'gwneud cadarnhaol' frys. Mae Llywodraeth y DU o'r farn ei bod yn bwysig bod y Rheoliadau hyn ar waith ar frys cyn y diwrnod ymadael er mwyn rhoi hyder a sicrwydd i'r cyhoedd a’r byd busnes a sicrhau bod y llyfr statud yn gweithredu’n effeithiol ar ôl ymadael â'r UE.

           

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 16 Hydref 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Rydym yn fodlon nad yw’r Rheoliadau ond yn gwneud cywiriadau i'r fframwaith deddfwriaethol presennol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn weithredol, yn hytrach na chreu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).