Manylion y penderfyniad
Debate on the Environment and Sustainability Committee's Report on the Inquiry into marine policy in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal
ymchwiliad byr i bolisi morol yng Nghymru.
Diben yr
ymchwiliad hwn fydd:
- asesu’r
cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran gweithredu Deddf y Môr 2009, yn
benodol, mewn cysylltiad â phwerau cadwraeth forol a chynllunio gofodol
morol y Ddeddf;
- asesu’r
cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru tuag at gyflawni ei chyfrifoldebau
Ewropeaidd yn y maes hwn, yn arbennig o ran y Gyfarwyddeb Fframwaith y
Strategaeth Forol, y Gyfarwyddeb Adar, y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y
Gyfarwyddeb Ansawdd Dŵr Ymdrochi a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Bydd y
Pwyllgor yn ystyried:
- pa
gynnydd a wnaed i ddatblygu cynlluniau gofodol morol ar gyfer Cymru?
- beth
yw statws ardaloedd morol gwarchodedig Cymru ar hyn o bryd, a pha rôl a
ddylai’r parthau cadwraeth morol newydd ei chael o ran y rhwydwaith o
ardaloedd gwarchodedig hyn?
- datblygiad
swyddogaethau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â thrwyddedu morol a
physgodfeydd, ac ystyried a fu’n effeithiol?
- pa
gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i weithredu cyfarwyddebau Ewropeaidd
allweddol?
- a
oes digon o gydgysylltiad a chyd-weithredu rhwng Llywodraeth Cymru a’r
gweinyddiaethau cyfagos iddi, mewn cysylltiad â rheoli’r moroedd?
- a
oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o adnoddau ariannol a staff i gyflawni ei
chyfrifoldebau o ran polisi a deddfwriaeth forol?
- a
yw rhanddeiliaid wedi cael eu cynnwys yn ddigonol yn y gwaith o lunio polisïau newydd a datblygu deddfwriaeth?
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.40
NDM5206
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi
morol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
22 Ionawr 2013.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2013
Dyddiad y penderfyniad: 17/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad