Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 17.27
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5204 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu bod y system gyllido ar gyfer
gofal hirdymor yn y DU wedi bod yn annigonol, yn
annheg ac yn anghynaliadwy yn rhy hir ac yn
croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer ei diwygio.
2.
Yn cydnabod na fu erioed cymaint o frys o ran yr angen
i sicrhau system gynaliadwy
i dalu am ofal yng Nghymru, gan
nodi gyda phryder:
a)
y bydd angen rhywfaint o ofal a chymorth ar dros
wyth o bob deg o bobl 65 oed neu
hŷn yn ddiweddarach yn eu bywydau ac y rhagamcanir y bydd nifer y bobl yng
Nghymru sy'n 65 oed a hŷn wedi dyblu erbyn
2035;
b)
yr amcangyfrifir bod dros 17,000 o bobl â dementia yng Nghymru ar
hyn o bryd a rhagwelir y bydd y ffigur hwn yn
cynyddu 31 y cant dros yr 20 mlynedd nesaf;
c)
bod un o bob tri o bobl, yn
ôl ymchwil ar ddefnyddwyr gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain, yn credu bod ‘gofal
i’w gael am ddim fel y mae’r
GIG’ ac nad oes diben cynllunio ar gyfer costau
gofal hirdymor yn y dyfodol;
d)
y bydd un o bob deg o deuluoedd yn wynebu costau
gofal o £100,000 neu fwy yn ystod
eu hoes, fel yr amlygwyd gan
Gomisiwn Dilnot.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i amlinellu’r egwyddorion allweddol a fydd yn sail i system newydd o gyllido gofal yng
Nghymru a chadarnhau'r cyllid canlyniadol Barnett a fydd yn deillio
o'r cyhoeddiad ar gyllido gofal
cymdeithasol yn Adolygiad o Wariant 2013.
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio argymhellion Comisiwn Dilnot fel sail ar gyfer
diwygio cyllid gofal cymdeithasol yng Nghymru ar
frys, gan gynnwys:
a)
sicrhau bod pobl wedi'u diogelu
rhag costau uchel eu gofal
cymdeithasol;
b)
cyflwyno cynllun
â chost wedi'i chapio ac ymestyn trothwy'r profion modd;
c)
ymestyn y cynllun taliadau gohiriedig i bob un y mae'n ofynnol iddo dalu
am ofal preswyl;
d) cyflwyno
Fframwaith Cymhwysedd Cenedlaethol i wella cysondeb y cymorth;
e)
sicrhau bod y rhai a ddaw’n oedolion
ac sydd ag angen gofal a chymorth
eisoes yn gymwys i gael cymorth
am ddim gan y wladwriaeth i ddiwallu eu hanghenion gofal;
f)
gwella argaeledd
a hygyrchedd gwybodaeth a chymorth i bobl ddeall eu hopsiynau
a pharatoi a chynllunio am gostau gofal.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘Yn cydnabod methiant
Llywodraethau dilynol y Cynulliad o ran darparu cymorth teg a fforddiadwy
i bobl agored i niwed ag
anghenion gofal cymdeithasol.’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl
‘yn rhy hir’.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le:
‘Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
Sefydlu atebion interim tecach i ffioedd gofal cymdeithasol, sy’n adlewyrchu anghenion Cymru, o fewn yr adnoddau
sydd ar gael ar hyn
o bryd.
b)
Sicrhau bod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud
darpariaeth ariannol ddigonol ar gyfer
cynnal teuluoedd a gofalwyr anffurfiol eraill yn y tymor
hir.
c) Sicrhau
bod modd cyllido gofal cymdeithasol yn gynaliadwy, ac yn credu y byddai
sefydlu fformiwla cyllido gyda Llywodraeth
y DU sy’n adlewyrchu anghenion Cymru yn helpu i ddarparu’r
adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn.’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd
y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2013
Dyddiad y penderfyniad: 17/04/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad