Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.54
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr
drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr
unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth
yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos.
2.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl
ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill
cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch
a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog,
oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu
ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu
hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.
3.
Yn gresynu bod nifer y bobl ar
leoliadau prentisiaeth yng Nghymru wedi
lleihau mwy na 25% rhwng 2006/7 a 2010/11.
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i brentisiaethau drwy:
a)
datblygu rhaglen cyswllt ag ysgolion
i gynyddu amlygrwydd prentisiaethau o ran darparu cyngor gyrfaol i bobl ifanc;
b)
sefydlu cynllun Llysgenhadon Prentisiaeth i hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol;
c)
gwella gwelededd cystadlaethau i ddathlu rhagoriaeth mewn sgiliau;
d)
treialu proses fel un UCAS
o wneud cais unigol a system glirio i wella cydraddoldeb ymagwedd rhwng llwybrau gyrfa; ac
e)
creu un system ar gyfer gwybodaeth, gwneud cais a chymorth
i symleiddio'r broses o ddarparu
gwybodaeth a lleihau cyfraddau gadael ac ymddieithrio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
49 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwyntiau
3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn croesawu’r
cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd
nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys
ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau
drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
16 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
y gall fod angen cymorth ar brentisiaid
ifanc ar ddiwedd eu hyfforddiant
i barhau mewn gwaith, yn ogystal
ag i ddeall rheoliadau a chontractau cyflogaeth.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr
drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr
unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth
yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos.
2.
Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl
ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill
cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch
a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog,
oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu
ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu
hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.
3.
Yn croesawu’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd
nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys
ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau
drwy gyfrwng y Gymraeg.
4.
Yn cydnabod y gall fod angen cymorth
ar brentisiaid ifanc ar ddiwedd
eu hyfforddiant i barhau mewn gwaith,
yn ogystal ag i ddeall rheoliadau
a chontractau cyflogaeth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
5 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2013
Dyddiad y penderfyniad: 12/06/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad