Manylion y penderfyniad

National Health Service Finance (Wales) Bill: Stage 2 - Consideration of Amendments

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Deddf Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar 30 Medi 2013. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Cyllid a cytunodd i hepgor trafodion Cyfnod 1 o ystyried bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi craffu'n fanwl ar y polisi hwn eisoes.

 

Gwybodaeth am y Ddeddf

 

Diben y Bil yw newid dyletswyddau ariannol y Byrddau Iechyd Lleol o dan Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006. Y bwriad yw newid y gofyniad statudol blynyddol i beidio â gwario mwy na'r terfyn adnoddau, gan gyflwyno system sy'n ystyried y ddyletswydd ariannol i reoli adnoddau o fewn cyfnod cymeradwy o dair blynedd.

 

Daeth Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 27 Ionawr 2014.

 

Cofnod o daith y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 

Cyfnod

 

Dogfennau


Cyflwyno’r Bil –
30 Medi 2013


Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), fel y’i gyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 30 Medi 2013

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil: 7 Hydref 2013

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru): 1 Hydref 2013

 

Crynodeb y Gwasnaeth Ymchwil o’r Bil



Cyfnod 1 –
Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol



Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Bil at bwyllgor i ystyried ei egwyddorion cyffredinol yng Nghyfnod 1.



Cyfnod 1 -
Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol



Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Hydref 2013.



Penderfyniad Ariannol



Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Hydref 2013.



Cyfnod 2
– Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau



Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2013.

 

Cofnodion Cryno: 7 Tachwedd 2013

 

Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)


Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Hydref 2013

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 24 Hydref 2013

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 29 Hydref 2013

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 31 Hydref 2013

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 7 Tachwedd 2013

Grwpio Gwelliannau: 7 Tachwedd 2013

 

Gohebiaeth y Gweinidog

 

Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (Saesneg yn Unig)


Cyfnod 3 –
y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau



Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Rhagfyr 2013.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Tachwedd 2013

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Tachwedd 2013

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli: 3 Rhagfyr 2013

Grwpio Gwelliannau: 3 Rhagfyr 2013

 

Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru


Cyfnod 4
– Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn



Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 3 Rhagfyr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Bil fel y’i pasiwyd

 

Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), fel y’r pasiwyd (Crown XML)


Cydsyniad Brenhinol



Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ionawr 2014.


 

Gwybodaeth cyswllt

 

Clerc: Fay Buckle

 

Ffôn: 029 2089 8041

 

Cyfeiriad postio:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

E-bost: PwyllgorCyllid@cymru.gov.uk 

Penderfyniadau:

2.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, aeth y Pwyllgor ati i drafod a gwaredu’r gwelliannau i’r Bil yn y drefn a ganlyn:

 

Adrannau 1 – 3

 

Adran 1:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

 

Adran 2:

Tynnwyd gwelliant 8 (Mark Drakeford) yn ôl.

 

Gwelliant 3 (Paul Davies)

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

 

 

 

Simon Thomas

Peter Black

Paul Davies

Jocelyn Davies

Christine Chapman

Julie Morgan

Mike Hedges

Ann Jones

 

4

4

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 (ii)), ac ni dderbyniwyd gwelliant 3.

 

Tynnwyd gwelliant 1 (Simon Thomas) yn ôl.


Gwelliant 2 (Simon Thomas)

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

 

 

 

Simon Thomas

Peter Black

Paul Davies

Jocelyn Davies

Christine Chapman

Julie Morgan

Mike Hedges

Ann Jones

 

4

4

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 (ii)), ac ni dderbyniwyd gwelliant 2.

 

Tynnwyd gwelliant 10 (Simon Thomas) yn ôl.

 

Derbyniwyd gwelliant 9 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Adran 3:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

 

Adrannau newydd:


Gwelliant 4 (Paul Davies)

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

 

 

 

Simon Thomas

Peter Black

Paul Davies

Jocelyn Davies

Christine Chapman

Julie Morgan

Mike Hedges

Ann Jones

 

4

4

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 (ii)), ac ni dderbyniwyd gwelliant 4.

 

Tynnwyd gwelliant 5 (Paul Davies) yn ôl.

 

Tynnwyd gwelliant 6 (Paul Davies) yn ôl.


Methodd gwelliant 7 (Paul Davies).

 

2.2 Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi derbyn pob adran o’r Bil, a chan y gwaredwyd pob gwelliant, bydd Cyfnod 3 yn dechrau ar 8 Tachwedd 2013.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 08/11/2013

Dyddiad y penderfyniad: 07/11/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: