Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.45
NDM5353
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar yr argymhellion a geir yn Rhan
1 Silk 'Grymuso a Chyfrifoldeb:
Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru';
2.
Yn nodi y dylai cyflwyno Pwerau Benthyca i Lywodraeth Cymru gynorthwyo yn y broses o ddarparu prosiectau seilwaith allweddol ledled Cymru;
3.
Yn croesawu ymhellach y datganiad y bydd uwchgynhadledd NATO yn cael ei
chynnal yng ngwesty'r Celtic Manor yn 2014 ac
yn nodi'r manteision economaidd uchel a ddylai ddod i economi Cymru yn sgîl cynnal
digwyddiad o'r fath;
4. Yn
edrych ymlaen at glywed sut y bydd
Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfleoedd hyn yn y ffordd
orau i Gymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 14/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 13/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad