Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM4736 Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob dewis a fydd yn helpu i adeiladu economi gref i Gymru, gan gynnwys:
(a) Cyflwyno Parthau Menter, a
(b) Adeiladu ar gyhoeddiad ‘Cynllunio ar gyfer Adnewyddu Economaidd Cynaliadwy’ drwy gyflwyno proses Ariannu drwy Gynyddrannau Treth er mwyn i awdurdodau lleol allu ariannu prosiectau adnewyddu mawr drwy fenthyg yn erbyn yr incwm a grëir gan yr adnewyddu hwnnw yn y dyfodol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
22 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 16/06/2011
Dyddiad y penderfyniad: 15/06/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad