Manylion y penderfyniad

Supplementary Legislative Consent Motion on The Care Bill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Cyflwynodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Gofal (PDF, 132KB) ar 25 Mehefin 2013.

 

Cyflwynodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ac atodol ar gyfer y Bil Gofal (PDF, 403KB) ar 18 Tachwedd 2013.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.48

NDM5331 Gwenda Thomas (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM5247, y darpariaethau pellach hynny yn y Bil Gofal sy’n ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoliadau trawsffiniol oedolion ac ôl-ofal iechyd meddwl ar gyfer pobl, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2013

Dyddiad y penderfyniad: 26/11/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad