Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.05
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
NDM5371 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
1. Yn mynegi pryder ynghylch dyfodol
gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty
Llwynhelyg.
2. Yn nodi'r effaith y byddai
absenoldeb gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ei
chael ar wasanaethau craidd eraill yn yr ysbyty, megis gofal pediatrig a gofal
brys.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cymryd camau gweithredu brys
i sicrhau dyfodol gwasanaethau craidd yn Llwynhelyg; a
(b) sicrhau bod Bwrdd Iechyd
Hywel Dda yn cyfathrebu ei gynlluniau ar gyfer cyfeiriad strategol y gwasanaethau
yn Ysbyty Llwynhelyg mewn modd effeithiol a diamwys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly,
gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad