Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5407
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llifogydd a difrod mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr
2014 sydd wedi effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru.
2. Yn cydnabod gwaith rhagorol y gwasanaethau a’r sefydliadau
brys o ran darparu cefnogaeth a chymorth i'r cymunedau hynny.
3. Yn credu y dylai'r defnydd deuol posibl o brosiectau ynni
adnewyddadwy lleol gael ei ystyried o ran darparu amddiffynfeydd môr pellach.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) mynd ati ar unwaith i adolygu Nodyn Cyngor Technegol 15:
Datblygu a Pherygl o Lifogydd;
b) datblygu ac ail-lansio'r cynllun grant a dreialwyd yn
2010/11 i ddarparu cyllid i'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd i
wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag llifogydd;
c) cyhoeddi adroddiadau ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r
llifogydd diweddar, ar ôl eu cwblhau.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn canmol gwirfoddolwyr lleol ar hyd a lled Cymru am eu
hymroddiad yn ystod y broses lanhau ac adfer.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu is-bwyntiau 4a a 4b a rhoi yn eu lle:
parhau â’i dull a ddisgrifir yn y Strategaeth Genedlaethol ar
gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a’r buddsoddiad o
£240 miliwn i ddelio â llifogydd yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ynghylch y camau y mae wedi'u cymryd i ymchwilio i'r posibilrwydd o
ddefnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynorthwyo gyda’r costau yn sgîl
gwaith atgyweirio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
ymgysylltu’n gadarnhaol â phartneriaid perthnasol i sicrhau
agwedd bragmatig tuag at geisiadau gan fusnesau a thai i ôl-ffitio eiddo at
ddibenion gwella mesurau atal llifogydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i ddefnyddio gwybodaeth
leol a thechnegau rheoli tir arloesol i wneud mwy o ddefnydd o adnoddau
naturiol i leihau effaith llifogydd, a chymryd camau i sicrhau bod
cynrychiolwyr yn gwella eu sgiliau’n briodol er mwyn gwella’r gallu i
wrthsefyll llifogydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
annog adolygiad o’r polisi clirio afonydd yng Nghymru cyn
gynted â phosibl, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
‘sefydlu Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i Gymru’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Gwelliant
8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
‘cyfrifo'r gost ychwanegol i lywodraeth leol a sefydliadau
cyhoeddus eraill yn sgîl y stormydd diweddar, ac ystyried ar unwaith yr angen i
wneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU neu'r Undeb Ewropeaidd i
helpu i ysgwyddo'r baich ariannol’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5407
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llifogydd a difrod mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr
2014 sydd wedi effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru.
2. Yn cydnabod gwaith rhagorol y gwasanaethau a’r sefydliadau
brys o ran darparu cefnogaeth a chymorth i'r cymunedau hynny.
3. Yn canmol gwirfoddolwyr lleol ar hyd a lled Cymru am eu
hymroddiad yn ystod y broses lanhau ac adfer.
4. Yn credu y dylai'r defnydd deuol posibl o brosiectau ynni
adnewyddadwy lleol gael ei ystyried o ran darparu amddiffynfeydd môr pellach.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) annog adolygiad o’r polisi clirio afonydd yng Nghymru cyn
gynted â phosibl, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd.
b) amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i ddefnyddio
gwybodaeth leol a thechnegau rheoli tir arloesol i wneud mwy o ddefnydd o
adnoddau naturiol i leihau effaith llifogydd, a chymryd camau i sicrhau bod
cynrychiolwyr yn gwella eu sgiliau’n briodol er mwyn gwella’r gallu i
wrthsefyll llifogydd.
c) ymgysylltu’n gadarnhaol â phartneriaid perthnasol i
sicrhau agwedd bragmatig tuag at geisiadau gan fusnesau a thai i ôl-ffitio
eiddo at ddibenion gwella mesurau atal llifogydd.
d) cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ynghylch y camau y mae wedi'u cymryd i ymchwilio i'r posibilrwydd o
ddefnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynorthwyo gyda’r costau yn sgîl
gwaith atgyweirio.
e) mynd ati ar unwaith i adolygu Nodyn Cyngor Technegol 15:
Datblygu a Pherygl o Lifogydd;
f) datblygu ac ail-lansio'r cynllun grant a dreialwyd yn
2010/11 i ddarparu cyllid i'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd i
wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag llifogydd;
g) cyhoeddi adroddiadau ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r
llifogydd diweddar, ar ôl eu cwblhau;
h) sefydlu Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i Gymru;
i) cyfrifo'r gost ychwanegol i lywodraeth leol a sefydliadau
cyhoeddus eraill yn sgîl y stormydd diweddar, ac ystyried ar unwaith yr angen i
wneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU neu'r Undeb Ewropeaidd i
helpu i ysgwyddo'r baich ariannol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd. Felly,
gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad