Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5417
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canfyddiadau'r Cynllun Bwyd Ysgol y byddai prydau
ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd yn arwain at welliannau
cadarnhaol o ran iechyd, cyrhaeddiad addysgol a chydlyniant cymdeithasol ac yn
helpu teuluoedd gyda chostau byw.
2. Yn nodi mai 21% yn unig o fabanod yng Nghymru sydd ar hyn
o bryd yn cael pryd bwyd ysgol am ddim a thua 24% yn unig o ddisgyblion oed
cynradd yn 2012-13 a gymerodd frecwast ysgol am ddim.
3. Yn nodi y bydd Cymru yn cael dros £62 miliwn o gyllid
refeniw canlyniadol Barnett ar gyfer 2014-16 a thros £4 miliwn o gyllid cyfalaf
yn 2014-15 yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim i
bob disgybl oed babanod yn Lloegr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid
canlyniadol Barnett i gyflwyno prydau ysgol am ddim yn gyffredinol i fabanod
yng Nghymru, er mwyn i bob plentyn bach gael pryd bwyd ysgol poeth, iach i hybu
iechyd, addysg a lles disgyblion.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
49 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl 'Cynllun Bwyd Ysgol' a rhoi
yn ei le: ‘bod plant sy’n bwyta bwyd maethlon yn dod ymlaen yn well yn yr
ysgol’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl ‘refeniw canlyniadol Barnett’
a rhoi yn ei le: ‘yn y ffordd fwyaf effeithiol a sicr o wella safonau a lles ac
i gyhoeddi rhaglen o’i bwriadau yng nghyswllt pob darpariaeth ar gyfer bwyd
ysgol'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y
cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig,
gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 30/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 29/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad