Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.53

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5439 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y gall gofal plant fforddiadwy, hygyrch ac o safon uchel fod yn allweddol i economi gryfach a chymdeithas decach, gan alluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, lleihau tlodi plant a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

 

2. Yn croesawu'r camau gweithredu cadarnhaol sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU gan gynnwys buddsoddi £1 biliwn mewn gofal plant i gynyddu addysg gynnar am ddim i bob plentyn tair a phedair oed a'i ymestyn i blant dwy oed o deuluoedd ar incwm isel, cyflwyno gofal plant di-dreth i deuluoedd sy'n gweithio a hawliau newydd ar rannu cyfnodau absenoldeb rhieni.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) adolygu'r system o hawl gofal plant cyn-ysgol yng ngoleuni’r ddarpariaeth well yn Lloegr;

 

b) archwilio effeithiolrwydd Dechrau’n Deg ar rianta a deilliannau datblygu plant a'r anghydraddoldeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar;

 

c) asesu a yw awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid i'r eithaf ar gyfer darpariaeth statudol o ran lleoedd addysg y blynyddol cynnar ar gyfer plant 3-4 oed;

 

d) archwilio ffyrdd o wella'r cyflenwad gofal plant ar draws pob oedran, yn arbennig cynlluniau gofal cofleidiol a gofal plant yn ystod y gwyliau;

 

e) rhoi eglurder i rieni o ran cymhwysedd am gynlluniau gofal plant yng Nghymru yng ngoleuni datblygiadau polisi diweddar Llywodraeth y DU; ac

 

f) cyflwyno un ffynhonnell unigol o wybodaeth ar-lein i helpu rhieni newydd gyda gwybodaeth am wasanaethau gofal plant a hawliau a sut i fanteisio arnynt.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ym mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘tlodi plant a’ a rhoi yn ei le ‘helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i weithredu ynghylch credydau treth ar gyfer gofal plant yr ochr hon i’r etholiad cyffredinol, yn mynegi pryder bod adnoddau’n cael eu cymryd oddi ar deuluoedd sydd â’r angen mwyaf ac yn nodi ymhellach bod y rhaglen Cychwyn Cadarn wedi’i dinistrio yn Lloegr, gyda dros 500 o ganolfannau wedi’u cau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

10

17

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

 

Ni chynigwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le ‘asesu’r system hawl i ofal plant cyn-ysgol’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Yn is-bwynt 3e), dileu popeth ar ôl ‘yng Nghymru’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu is-bwynt 3f).

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gan fod gwelliant 7 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 8 ei ddad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5439 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y gall gofal plant fforddiadwy, hygyrch ac o safon uchel fod yn allweddol i economi gryfach a chymdeithas decach, gan alluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, lleihau tlodi plant a helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd.

 

2. Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i weithredu ynghylch credydau treth ar gyfer gofal plant yr ochr hon i’r etholiad cyffredinol, yn mynegi pryder bod adnoddau’n cael eu cymryd oddi ar deuluoedd sydd â’r angen mwyaf ac yn nodi ymhellach bod y rhaglen Cychwyn Cadarn wedi’i dinistrio yn Lloegr, gyda dros 500 o ganolfannau wedi’u cau.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) asesu’r system hawl i ofal plant cyn-ysgol;

 

b) archwilio effeithiolrwydd Dechrau’n Deg ar rianta a deilliannau datblygu plant a'r anghydraddoldeb yn narpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar;

 

c) asesu a yw awdurdodau lleol yn defnyddio cyllid i'r eithaf ar gyfer darpariaeth statudol o ran lleoedd addysg y blynyddol cynnar ar gyfer plant 3-4 oed;

 

d) archwilio ffyrdd o wella'r cyflenwad gofal plant ar draws pob oedran, yn arbennig cynlluniau gofal cofleidiol a gofal plant yn ystod y gwyliau; ac

 

e) rhoi eglurder i rieni o ran cymhwysedd am gynlluniau gofal plant yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2014

Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad