Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
NDM4772 Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gwella safonau ysgolion drwy:
a) cyflwyno premiwm disgybl er mwyn targedu
arian at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, gan helpu i gau'r
bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr;
b) datblygu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygiad
proffesiynol parhaus, a gaiff ei chyllido
drwy gael gwared ar Gyngor
Addysgu Cyffredinol Cymru a
thrwy wella prosesau cynllunio’r gweithlu;
c) diweddaru’r cwricwlwm cenedlaethol fel ei fod
yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol;
d) fynnu bod adolygiad annibynnol llawn o drefniadau llywodraethu ysgolion yn cael ei
gynnal, gan archwilio’n benodol faterion yn ymwneud
ag atebolrwydd lleol, yr arweinyddiaeth
briodol ar gyfer cyrff llywodraethu,
ac a fyddai un corff llywodraethu yn briodol ar gyfer
dalgylchoedd; ac
e) gwella’r trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd drwy ffurfioli’r partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn,
cyflogi mwy o athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion
uwchradd yn cynnig gwell cydbwysedd
rhwng addysgu academaidd a bugeiliol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
3 |
0 |
48 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt a) ac ailrifo’r
pwyntiau sy'n dilyn.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gwelliant 2 - Nick
Ramsay (Mynwy)
Dileu is-bwyntiau b) i
e) a rhoi is-bwyntiau newydd yn eu
lle:
Gweithredu cynlluniau Llywodraeth Cymru yn fanwl ar gyfer
gwella safonau llythrennedd a monitro canlyniadau’r cynlluniau hynny;
Darparu cwricwlwm cenedlaethol cyflawn i gynnwys amser ar
gyfer chwaraeon, economeg y cartref a sgiliau bywyd; a
Datblygu cam canol mewn addysg.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
8 |
32 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Yn is-bwynt b), dileu popeth ar
ôl ‘datblygiad proffesiynol parhaus’
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4
- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Yn is-bwynt d), dileu ‘Gorchymyn adolygiad annibynnol llawn’ a rhoi ‘Cynnal adolygiad’
yn ei le.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
43 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant
4.
Gwelliant 5
- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt e).
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4772 Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen gwella safonau ysgolion drwy:
a) datblygu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygiad
proffesiynol parhaus;
b) diweddaru’r cwricwlwm cenedlaethol fel ei fod
yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol;
c) fynnu bod adolygiad annibynnol llawn o drefniadau llywodraethu ysgolion yn cael ei
gynnal, gan archwilio’n benodol faterion yn ymwneud
ag atebolrwydd lleol, yr arweinyddiaeth
briodol ar gyfer cyrff llywodraethu,
ac a fyddai un corff llywodraethu yn briodol ar gyfer
dalgylchoedd; ac
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/06/2011
Dyddiad y penderfyniad: 29/06/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad