Manylion y penderfyniad
Debate on the Communities, Equality and Local Government Committee’s Report on Participation Levels in Sport
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Y cylch gorchwyl
Roedd y Pwyllgor
yn canolbwyntio yn benodol ar chwaraeon, ond o fewn cyd-destun ehangach
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yn fwy
cyffredinol.
Archwiliwyd y
meysydd canlynol mewn mwy o fanylder:
- I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru a
Chwaraeon Cymru yn cyflawni’r nodau a amlinellwyd yn y Rhaglen
Lywodraethu, yn y cynllun gweithredu Creu Cymru Egnïol ac yn Y Weledigaeth
ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru o ran lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon;
- I ba raddau y mae setiau data ac ystadegau ar
gael ar gyfer mesur lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon, yn enwedig rhai a
gaiff eu dadgyfuno yn ôl meysydd cydraddoldeb a grwpiau economaidd-gymdeithasol;
- Y cyfleoedd a’r rhwystrau y mae gwahanol
grwpiau o bobl yn eu hwynebu o ran cymryd rhan mewn chwaraeon, gan gynnwys
yn ôl meysydd cydraddoldeb a grwpiau economaidd-gymdeithasol;
- Beth yw’r cysylltiadau rhwng rhaglenni ar
gyfer datblygu chwaraeon yng Nghymru a mentrau eraill Llywodraeth Cymru i
gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol; ac
- Effaith y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd,
Cwpan Ryder a digwyddiadau proffil uchel a llwyddiannau eraill ym maes
chwaraeon yng Nghymru ar lefelau cyfranogi yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 15.02
NDM5509 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad Mewn Chwaraeon,
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 22/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 21/05/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad