Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4788 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac
yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes
er mwyn:
a) Osgoi sefyllfa lle mae gwneud gwelliannau i eiddo yn cynyddu ei werth ac
felly’n golygu bod ardreth y busnes yn uwch;
b) Newid y rôl y dylai awdurdodau lleol ei chwarae o ran casglu a chadw
ardrethi busnes, er mwyn rhoi sylw i anghenion lleol;
c) Rhoi’r gorau i godiadau anferth mewn ardrethi busnes pan fo gwerthoedd
yn cynyddu a chostau’n codi rhwng blynyddoedd fel sydd wedi digwydd i lawer o
fusnesau gwely a brecwast yn ddiweddar;
d) Ehangu’r rhyddhad ardrethi busnes i helpu mwy o gyfleusterau cymunedol
fel swyddfeydd post, tafarndai, mentrau cymdeithasol a siopau annibynnol;
e) Penderfynu a fyddai Cymru’n elwa o fabwysiadu’r un trefniadau cyfrifo
ardrethi busnes ag sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda Llywodraeth y DU.
3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a) Rewi ardrethi busnes nes caiff argymhellion yr adolygiad hwn eu rhoi
ar waith;
b) Amlinellu manylion ei chynlluniau i lunio cynllun cynhwysfawr i
leihau’r beichiau rheoleiddio ar fusnesau bach; a
4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i
asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
48 |
53 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2
a 3 o’r cynnig gwreiddiol a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd 2 a 3, a nodir isod.
2. Yn cydnabod
bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio
y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir
ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru.
3. Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno
ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion
economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
26 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De
Cymru)
Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le:
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes a pharhau â’r
cynllun rhyddhad ardrethi busnes cyfredol i fusnesau bach wrth i’r adolygiad
fynd rhagddo.
Gwelliant 3 -
Nick Ramsay (Mynwy)
Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le:
Dileu’r holl ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o
£12000 neu lai a thapro ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth
ardrethol rhwng £12000 a £15000.
Gwelliant 4 -
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 3a) ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4788 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac
yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru;
2. Yn cydnabod
bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio
y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir
ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru.
3. Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno
ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion
economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth.
4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i
asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 14/07/2011
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad