Manylion y penderfyniad
Planning (Wales) Bill: Stage 1 - Evidence session 14
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.
Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am
gefndir y Bil, ac ymgynghoriad y Pwyllgor, ar flog
y Cynulliad Cenedlaethol.
Gwybodaeth am y Bil
Prif
ddibenion y Bil yw:
- Cryfhau'r dull o gynllunio a arweinir gan
gynlluniau. Mae'r Bil yn cyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd i
Weinidogion Cymru allu paratoi cynllun defnydd tir cenedlaethol, a elwir
yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru. Bydd y fframwaith yn nodi
blaenoriaethau defnydd tir cenedlaethol a gofynion isadeiledd ar gyfer
Cymru.
- Gwneud darpariaeth ar gyfer llunio
Cynlluniau Datblygu Strategol, i fynd i'r afael â materion traws-ffiniol
nad ydynt yn rhai lleol, fel cyflenwad tai ac ardaloedd ar gyfer twf
economaidd ac adfywio.
- Gwneud darpariaeth ar gyfer ymgynghori cyn
ymgeisio, ac i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddarparu
gwasanaethau cyn ymgeisio.
- Gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru
dderbyn ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau o bwys cenedlaethol. Bydd
ymgeiswyr am ganiatâd cynllunio hefyd yn gallu gwneud cais i Weinidogion
Cymru am ganiatâd cynllunio lle ystyrir bod awdurdod cynllunio lleol
perfformio'n wael.
- Diwygio'r system o reoli datblygu i
symleiddio gweithdrefnau, er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau yn
brydlon, gan roi sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau.
- Gwella gweithdrefnau gorfodi ac apêl. Gwneir
newidiadau hefyd mewn perthynas ag adennill costau ar gyfer partïon sy'n
gysylltiedig ag achosion cynllunio.
- Gwneud newidiadau mewn perthynas â
cheisiadau i gofrestru meysydd tref a phentref.
Cyfnod presennol
Daeth
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru ar 6
Gorffenaf 2015 (gwefan allanol).
A’r Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, mae Llywodraeth
Cymru wedi darparu memorandwm
esboniadol diwygiedig.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl
a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth gyswllt
Mae'r bil wedi cael ei cyfeirio i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Clerc: Alun Davidson
Rhif ffôn: 0300 200 6565
E-bost: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru
Penderfyniadau:
Atebodd y
Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu:
·
rhagor o wybodaeth am sut y caiff cyfleoedd hyfforddi ar
gyfer cynllunio strategol eu darparu;
·
enghreifftiau o achosion lle mae cais cynllunio wedi cael
ei ystyried gan awdurdod parc cenedlaethol ac awdurdod lleol, gyda chanlyniadau
gwahanol;
·
rhagor o wybodaeth am gysylltiadau â chynllunio
trafnidiaeth statudol a chynllunio morol; a
·
chrynodeb o ganlyniad yr ymgynghoriad ar Ddylunio yn y Broses
Gynllunio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 14/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/01/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig