Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.54
Oherwydd nam technegol gyda’r system feicroffonau, cafodd y trafodion eu
hatal am 17.18. Cafodd y gloch ei chanu cyn ailymgynnull am 17.30.
NDM5702 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) bod y Swyddfa
Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif y bydd un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain yn profi
problem iechyd meddwl o fewn unrhyw flwyddyn benodol;
b) bod Sefydliad
Iechyd y Byd yn amcangyfrif y cynrychiolir 20% o'r 'baich afiechyd' yn y DU gan
salwch meddwl ond mai dim ond 11% o wariant y GIG sy'n cael ei wario ar iechyd
meddwl;
c) y gall problemau
iechyd meddwl ryngweithio â chyflyrau eraill i waethygu lles unigolyn
ymhellach;
d) yn ôl Prif
Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig, fod tri chwarter o anhwylderau meddwl ymysg
oedolion yn dod i'r amlwg erbyn iddynt droi'n 21 oed, ond nad yw tri chwarter
o'r plant a'r bobl ifanc sydd â'r anhwylderau hyn wedi cael diagnosis neu gael
eu trin;
e) bod Stats Cymru
wedi dangos bod pobl ifanc o dan 18 oed yn cynrychioli 85% o'r boblogaeth a
wnaeth aros mwy na 18 wythnos ym mis Rhagfyr 2014 rhwng cael eu hatgyfeirio a
chael eu triniaeth gyntaf ar gyfer problemau iechyd meddwl;
f) y canfu gwaith
ymchwil gan Mind na fyddai 1 o bob 3 o weithwyr yn y DU yn gallu siarad yn
agored â'u rheolwyr llinell am straen.
2. Yn croesawu
gwaith ardderchog y trydydd sector o ran codi ymwybyddiaeth o les iechyd
meddwl.
3. Yn credu bod yn
rhaid i fwy gael ei wneud i gefnogi pobl i ofalu am eu hiechyd meddwl eu
hunain.
4. Yn credu bod yn
rhaid cael cydraddoldeb o ran y pwyslais a roddir ar iechyd meddwl a
chorfforol.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal
astudiaeth i bennu pa gyllid ac adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer
darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran y
pwyslais a roddir ar wasanaethau iechyd meddwl a chorfforol;
b) ehangu
seiciatreg gyswllt yn y GIG i ddarparu cymorth gofal iechyd meddwl ar gyfer
pobl sy'n cael eu trin ar gyfer problemau iechyd corfforol;
c) cynnig
hyfforddiant cymorth iechyd meddwl a chyngor i bawb sy'n gweithio'n agos gyda
phlant;
d) sicrhau bod pob
athro dan hyfforddiant newydd yn cael hyfforddiant cymorth iechyd meddwl
sylfaenol fel rhan o'r statws athro cymwysedig;
e) sicrhau bod
cyflogwyr yn sicrhau bod gweithleoedd yn cynnig amgylchedd sy'n ystyriol o
iechyd meddwl.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 26/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 25/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad