Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4824 Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
i:
i) bennu targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael
ar gael i bawb yng Nghymru
ni waeth pa fath o ganser sydd
ganddynt na lle maent yn
byw;
ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer
canfod canser yn gynharach yng
Nghymru.
iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael
ei darparu i’r rheini sy’n
byw â chanser a’u teuluoedd o’r
funud maent yn amau bod ganddynt
ganser, yn ystod eu triniaeth
ac ar ei hôl yn ogystal
ag ar ddiwedd
bywyd;
b) Sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser; ac
c) Datblygu cynllun i gefnogi’r rheini sy’n goroesi canser.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys ar ddechrau pwynt 1:
‘Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
12 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau b.) ac c.) a rhoi yn eu lle:
sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg a phrydlon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
17 |
55 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM4824 Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cymeradwyaeth
unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) Sefydlu Cynllun Canser cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
i:
i) bennu targedau clir i sicrhau bod y triniaethau gorau sydd ar gael
ar gael i bawb yng Nghymru
ni waeth pa fath o ganser sydd
ganddynt na lle maent yn
byw;
ii) datblygu cynlluniau clir ar gyfer
canfod canser yn gynharach yng
Nghymru.
iii) sicrhau bod cefnogaeth holistaidd yn cael
ei darparu i’r rheini sy’n
byw â chanser a’u teuluoedd o’r
funud maent yn amau bod ganddynt
ganser, yn ystod eu triniaeth
ac ar ei hôl yn ogystal
ag ar ddiwedd
bywyd; a
b) sicrhau bod pobl
yn gallu cael gafael ar
driniaethau canser diogel ac effeithiol mewn modd teg
a phrydlon.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 13/10/2011
Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad