Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu nad yw'r system
bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn
addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i
archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys:
a) cael gwared ar Arolygiaeth
Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth
Cymru;
b) penodi prif arolygydd ar
gyfer ysbytai a gofal iechyd;
c) cyflwyno arolygiadau a
arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan
gleifion;
d) cefnogi staff a chleifion i
ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant
cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw; ac
e) diwygio'r drefn gwyno er
mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
42 |
48 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
f) ystyried uno'r arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gynyddu tryloywder yn y broses o arolygu a rheoleiddio darparwyr gofal iechyd
yng Nghymru drwy gomisiynu ymchwiliad llawn ac annibynnol i'r GIG yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
9 |
29 |
48 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5779 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu nad yw'r system
bresennol ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd yn
addas at y diben ac nad yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ateb yr angen i
archwilio'r system iechyd yng Nghymru yn annibynnol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu system sicrhau ansawdd mwy cadarn sy'n cynnwys:
a) cael gwared ar Arolygiaeth
Iechyd Cymru a sefydlu arolygiaeth newydd sy'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth
Cymru;
b) penodi prif arolygydd ar gyfer
ysbytai a gofal iechyd;
c) cyflwyno arolygiadau a
arweinir yn glinigol ac a adolygir gan gymheiriaid gyda mewnbwn sylweddol gan
gleifion;
d) cefnogi staff a chleifion i
ddefnyddio mecanweithiau ar gyfer chwythu'r chwiban drwy annog diwylliant
cryfach o fod yn agored ac yn dryloyw;
e) diwygio'r drefn gwyno er
mwyn sicrhau mwy o annibyniaeth ac adfer ymddiriedaeth cleifion a'u teuluoedd.
f) ystyried uno'r
arolygiaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
29 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Dyddiad cyhoeddi: 11/06/2015
Dyddiad y penderfyniad: 10/06/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad