Manylion y penderfyniad
Debate on the First Supplementary Budget 2015-2016
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb
Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol.
Gweithiodd hefyd
gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios
Gweinidogol penodol wedi cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliwyd y pwyllgor
sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn
archwilio i’r agweddau ar y gyllideb daeth o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac
wedyn yn adrodd yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Cynhaliodd y
pwyllgor ymgynghoriad ar
gynigion cyllideb ddrafft y llywodraeth rhwng Gorffennaf 2014 i Fedi 2014.
Isod ceir
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft, ynghyd â gohebiaeth
berthnasol i’w waith craffu.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5798
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol
Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac
a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 23 Mehefin 2015.
Troednodyn:
Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
(i)
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru;
(ii)
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii)
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv)
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig; a
(v)
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c).
Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
-
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
16 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y
cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2015
Dyddiad y penderfyniad: 14/07/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad