Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.42
NDM5840 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y gall
problemau iechyd meddwl, heb gymorth a thriniaeth briodol, gael effaith
ddinistriol ar ansawdd bywyd person, gan effeithio ar ei waith, ei fywyd
cartref a'i berthnasau;
2. Yn croesawu diwrnod
iechyd meddwl y byd, Amser i Newid Cymru, Gyda’n Gilydd Nawr! ac ymgyrchoedd
eraill sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a rhoi terfyn ar stigma
a gwahaniaethu;
3. Yn credu bod llawer
i'w wneud o hyd er mwyn darparu gwell gofal a chymorth i bobl o bob oedran sydd
â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru; a
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) rhoi blaenoriaeth
gyfartal i iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn y gyfraith i helpu i yrru newid
diwylliannol mewn agweddau;
b) sicrhau bod y gyfran
o gyllid ar gyfer iechyd meddwl o fewn cyllideb gyffredinol GIG Cymru yn gyson
â'r baich clefydau, gan adlewyrchu maint cymharol yr her iechyd mewn perthynas
ag iechyd corfforol;
c) cyflwyno safonau
amseroedd aros newydd ar gyfer iechyd meddwl, gan gynnwys ar gyfer mynediad at
therapïau seicolegol;
d) gwella hyfforddiant
iechyd meddwl i athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol a chyflogwyr er mwyn
rhoi'r sgiliau iddynt adnabod a chefnogi'r rhai sydd â phroblemau iechyd
meddwl; ac
e) cyflwyno set graidd o
ddata iechyd meddwl, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr
gwasanaethau, i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar flaenoriaethau
gweithredu a sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu yn y ffordd fwyaf
effeithiol.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 08/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 07/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad