Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.47
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5865 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gan stryd
fawr fywiog ac amrywiol rôl allweddol i'w chwarae yng Nghymru o ran adeiladu
cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, cefnogi swyddi a menter lleol a gwella
cynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol;
2. Yn cydnabod yr angen i
fynd i'r afael â rhwystrau i dwf canol trefi, sy'n cynnwys:
a) y cynnydd mewn
adwerthu ar-lein ac ar gyrion trefi;
b) colli gwasanaethau
lleol neu asedau cymunedol a'r gyfres ddiweddaraf o fanciau a gafodd eu cau;
c) y gyfradd siopau gwag
ar y stryd fawr sy'n gyson yn uwch na chyfartaledd y DU;
d) y diffyg ystyriaeth
gynnar o drafnidiaeth gynaliadwy mewn prosiectau adfywio; ac
e) methiant y system
gynllunio i hwyluso datblygu ac annog buddsoddiad mewn ymateb i'r newidiadau yn
yr hyn y mae cwsmeriaid yn galw amdano.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried cynigion arloesol ar gyfer adfywio'r stryd fawr yng Nghymru,
gan gynnwys datblygu rhwydwaith dysgu cenedlaethol i gynnig hyfforddiant ac
adnoddau, hwyluso rhwydweithio i gael ysbrydoliaeth ar arfer gorau a chasglu a
rhannu mynediad i ymchwil o bob cwr o'r byd ar adfywio canol trefi.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
10 |
43 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 05/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 04/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad