Manylion y penderfyniad
Motions to establish Committees
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
The
Establishment and Remits of Committees is governed by Standing Order 16.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 16.11
NDM6034 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy
graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a
ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a
phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.
NDM6035 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i
pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
newid yn yr hinsawdd, ynni, rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles
anifeiliaid ac amaethyddiaeth.
NDM6036 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y
celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r
cyfryngau.
NDM6037 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru
i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd;
trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan
gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.
NDM6038 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru
i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth
leol; tai; adfywio, cydlyniant a diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle
cyfartal a hawliau dynol.
NDM6039 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd
corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y
system gofal cymdeithasol.
NDM6040 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlol 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn i ystyried unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Pwyllgor
Busnes.
NDM6041 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Deisebau
i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog
23.
NDM6042 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu
ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw
fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
NDM6043 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Safonau
Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol
Sefydlog 22.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 29/06/2016
Dyddiad y penderfyniad: 28/06/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd