Manylion y penderfyniad
Debate: The First Supplementary Budget 2016-17
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Gosododd Llywodraeth
Cymru ei Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2016-17 ar 21 Mehefin 2016. Gellir
dod o hyd i’r cynnig ynghylch y gyllideb, y Dyraniadau Prif Grwpiau Gwariant, a
nodyn esboniadol isod. Mae’r gyllideb yn diwygio Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru
2016-17.
Cyhoeddodd Gwasanaeth
Ymchwil y
Cynulliad erthygl
blog Pigion ar y gyllideb.
Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid gynigion y cyllideb a
cyhoeddodd
adroddiad ar y gyllideb atodol (PDF, 747KB) ar 8 Gorffennaf 2016.
Anfonodd
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol nodyn
i’r Pwyllgor Cyllid ar Ardal Fenter Glannau Port Talbot (PDF, 107KB) ar 8
Gorffennaf 2016.
Cymeradwyodd y
Cynulliad cyfan y gyllideb atodol yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2016.
Anfonodd
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ymateb
i adroddiad y Pwyllgor Cyllid (PDF, 303KB) ar 18 Awst 2016.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am
18.44
NDM6046 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r
Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r
Cynulliad ddydd Mawrth, 21 Mehefin 2016.
Troednodyn:
Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
i.
y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
ii.
yr adnoddau
y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii.
cysoniad
rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv.
cysoniad
rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
v.
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c).
Rhoddwyd y wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Aelodau:
-
nodyn yn egluro’r prif newidiadau o’r cynlluniau blaenorol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 13/07/2016
Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd